An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Yan Wu

Dr Yan Wu

Athro Cyswllt
Media

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513273

Cyfeiriad ebost

122
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Yan Wu yn Athro Cyswllt Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ers 2017. Hi yw arweinydd y Ganolfan ar y Celfyddydau Digidol a’r Dyniaethau ac mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Golygyddol Journalism Practice (Routledge). Mae wedi gweithio yn y sectorau addysg uwch Prydeinig a Tsieineaidd ac wedi addysgu a gwneud gwaith ymchwil yn y Deyrnas Unedig a Tsieina.

Mae diddordebau ymchwil Dr Wu yn cwmpasu dau brif faes – cyfryngau a chyfathrebu yn Tsieina a chynwysoldeb digidol yng Nghymru. Mae ei harbenigedd ar gyfryngau a chyfathrebu yn Tsieina yn cwmpasu amrywiaeth o faterion gan gynnwys y gymuned ar-lein, newyddiaduraeth dinasyddion, cyfryngau cymdeithasol yn Tsieina, a chyfathrebu pŵer meddal Tsieina. Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan henoed Tsieina. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hefyd wedi datblygu cyfres o brosiectau ymchwil ar gyfryngau digidol a chynwysoldeb yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn cynnwys portffolio o brosiectau, er mwyn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau cyfathrebol i bobl â nam ar y synhwyrau yn yr oes ddigidol, cefnogi’r ymgyrch barhaus dros gydraddoldeb cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru, elusennau a chymunedau â nam ar y synhwyrau, ac mae wedi cynhyrchu tystiolaeth gref o effaith uniongyrchol ar bolisi. Mae’n cynrychioli Prifysgol Abertawe fel aelod o Strategaeth Golwg Cymru.

Mae ei chyhoeddiadau yn yr iaith Tsieineaidd yn cynnwys tri llyfr wedi’u cyd-ysgrifennu, a nifer o erthyglau yng nghyfnodolyn Mynegai Dyfyniad Gwyddor Gymdeithasol Tsieina, Modern Communication. Mae ei chyhoeddiadau Saesneg wedi ymddangos mewn cyfnodolion fel New Media and Society, Global Media and China, International Journal of Digital Television, ac fel penodau yn y llyfrau Media and Public Sphere (2007), Climate Change and Mass Media (2008), a Migration and the Media (2012).

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfryngau cymdeithasol yn Tsieina
  • Newyddiaduraeth dinasyddion yn Tsieina
  • Cyfryngau a diplomyddiaeth gyhoeddus yn Tsieina
  • Tsieineaid alltud
  • Cynwysoldeb digidol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Wu yn dysgu ar nifer o fodiwlau gan gynnwys Damcaniaethu’r Cyfryngau (israddedig); Rhywedd a Rhywioldeb y Cyfryngau (israddedig) a Chyfryngau Byd-eang (Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir) yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu. Mae hi hefyd yn cyfrannu at fodiwlau sy’n cael eu haddysgu gan dîm.

Ymchwil