Bay-campus
YS profile

Dr Jacoub Sleibi

Darlithydd mewn Cyllid
Accounting and Finance
216
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Yacoub Sleibi â Phrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2025 fel Darlithydd (Athro Cynorthwyol) mewn Cyllid yn yr Adran Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth. Mae Yacoub yn un o gymrodorion Academi Addysg Uwch y DU ac mae ganddo PhD mewn Economeg Ariannol o Ysgol Fusnes Prifysgol Newcastle. Enillodd radd Meistr yn y Gwyddorau mewn Cyllid a Bancio Byd-eang gyda Rhagoriaeth o Ysgol Reolaeth Prifysgol Bradford, a gradd Baglor yn y Gwyddorau mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Bethlehem.  Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i feysydd gwahanol macro-gyllid a bancio gan gynnwys y gydberthynas fewndarddol rhwng cyllid a'r sector real, lledaeniad siociau bancio rhwng marchnadoedd ariannol a symudiadau ar y cyd o ran stociau ynni gwyrdd.   

Mae Yacoub yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn Economics a gyhoeddir gan De Gruyter ac yn gweithredu fel adolygydd ad-hoc ar gyfer sawl cyfnodolyn. At hynny, mae Yacoub wedi cyflwyno ei waith mewn cynadleddau rhyngwladol yn y DU, yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Groeg.

Bu ganddo swyddi gwahanol gynt ym Mhrifysgol Newcastle, Prifysgol Essex a Phrifysgol Huddersfield lle bu'n addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys damcaniaeth ariannol, cyllid corfforaethol, bancio buddsoddi a macro-economeg ganolradd.

Meysydd Arbenigedd

  • • Macro-Gyllid
  • • Siociau Bancio
  • • Polisi Ariannol Anghonfensiynol
  • • Econometreg Gymhwysol (data panel a chyfres amser)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Yacoub ym maes cyllid empiraidd a bancio. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Marchnadoedd Ariannol
  • Bancio Byd-eang
  • Cyllid Corfforaethol
  • Dulliau Meintiol
Ymchwil Prif Wobrau