- Rhif y Swydd
- SU00208
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 2 Medi 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Emma Dunbar e.j.dunbar@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd deiliad y rôl yn cael ei reoli gan y Pennaeth Eiddo Deallusol a Masnacheiddio yn nhîm eiddo deallusol a masnacheiddio Prifysgol Abertawe, yn is-adran Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth Adran y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS). Mae'r tîm eiddo deallusol a masnacheiddio'n arwain ar ystod o swyddogaethau arloesi a masnacheiddio yn y Brifysgol gan gynnwys rheoli eiddo deallusol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am drafodion masnachol a wneir drwy is-gwmni sy'n eiddo'n llwyr i’r Brifysgol, Swansea Innovations Ltd (SIL).
Bydd y Swyddog Eiddo Deallusol a Chontractau () yn gyfrifol am drafod a drafftio cytundebau cyfreithiol cymhleth â gwahanol randdeiliaid ac am ddarparu cymorth i gontractau mewn perthynas â phob agwedd ar ymgynghori, cytundebau cydweithredol, eiddo deallusol a masnacheiddio yn unol â gofynion Tîm Eiddo Deallusol a Masnacheiddio REIS. Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r Cynorthwy-ydd Contractau Eiddo Deallusol.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth a chyngor i'r Tîm Eiddo Deallusol a Masnacheiddio yn ymwneud â chontractau a geir gan bartïon allanol a thimau prosiect megis IAA yn ymwneud â gofynion cytundebau cydweithredol a chytundebol.
Bydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol, ynghyd ag amodau neu arweiniad gan gyllidwyr perthnasol.
Pan fo'n briodol, bydd y Swyddog Eiddo Deallusol a Chontractau yn cydlynu ei waith â gwaith y Swyddogion Ymchwil a Chontractau Cyfreithiol.
Mae'r rôl hon yn rôl gyffrous, sy'n ennyn diddordeb ac sy'n rhoi boddhad wrth i chi chwarae eich rhan chi mewn tîm Eiddo Deallusol ac entrepreneuriaeth i ddatgelu a rhyddhau potensial i greu arloesi gwych sy'n barod ar gyfer masnacheiddio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw . Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.