Y tu allan i’r Abaty

GWOBR Y CANGHELLOR 2025

CYDNABOD YMAGWEDDAU ARLOESOL AR DRAWS EIN CYMUNED

Mae Gwobr y Canghellor yn cydnabod aelodau o gymuned staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd, enw da neu effaith ein Prifysgol. Bob blwyddyn, caiff Gwobr y Canghellor ei chyflwyno am waith diweddar sy'n cydweddu â thema benodol.

Rydym yn hynod falch o'n gwaith arloesol yn y Brifysgol a'r syniadau newydd parhaus a geir ar draws ein cymuned. Ar gyfer Gwobrau 2025, rydym yn chwilio am geisiadau sy'n canolbwyntio ar ymagweddau arloesol yn benodol; mewn ymchwil greadigol neu weithgarwch arloesol cymhwysol (gan gynnwys cwmnïau deillio a datblygu cynhyrchion newydd), ym maes dysgu ac addysgu neu ddatblygu ffyrdd newydd ymarferol o weithio yn ein Prifysgol a thu hwnt. 

Croesewir enwebiadau o bob adran o gymuned Prifysgol Abertawe, a chyflwynir dwy wobr bob blwyddyn; un ar gyfer aelodau o'n staff yn y Brifysgol ac un ar gyfer ein myfyrwyr.

Bydd y beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o gyfraniadau rhagorol at Brifysgol Abertawe ei hun a/neu'n ehangach (gan gynnwys rhanbarthau, gwledydd neu sectorau eraill). Dylai enwebiadau fod yn gysylltiedig ag o leiaf un o bileri strategol allweddol y Brifysgol: cenhadaeth ddinesig, profiad y myfyrwyr, dysgu ac addysgu, ymchwil ac arloesi a mentergarwch.

Cyflwynir gwobr i'r enillwyr yn un o'n seremonïau graddio yn yr haf, lle caiff eu cyfraniad ei ddathlu. Caiff eu henwau eu hychwanegu hefyd at lechres anrhydedd Gwobrau'r Canghellor.

Canllawiau

Croesewir enwebiadau gan yr holl staff a myfyrwyr, ni waeth a ydynt yn unigolion neu'n dimau. Sylwer, yn achos enwebiadau staff, byddwn yn derbyn uchafswm o ddau gais ar gyfer pob Ysgol academaidd neu Uned Gwasanaethau Proffesiynol.

Caiff enwebiadau eu derbyn ar gyfer unrhyw weithgaredd a wnaed yn ddiweddar sy'n cydweddu â thema'r Wobr.

Ni ddylai enwebiadau fod yn fwy na 1,500 o eiriau o hyd, gan gynnwys:

  • Crynodeb lleyg byr yn y trydydd person o'r cais, i’w ddefnyddio mewn dyfyniadau a deunyddiau cyhoeddusrwydd;
  • Disgrifiad o natur y cyfraniad a'i effeithiau, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r gwaith wedi bod o fudd i naill ai'n Prifysgol ac/neu unigolion neu gymunedau allanol;
  • Disgrifiad o unrhyw gynlluniau i barhau â'r fenter neu ei datblygu ymhellach yn y dyfodol;
  • Gellir cyflwyno tystiolaeth i gefnogi effaith y fenter (e.e. sylw yn y cyfryngau, ffotograffau, canmoliaeth) fel atodiad dewisol dim mwy na 500 o eiriau o hyd. Gwnewch yn siŵr na fydd y delweddau a gyflwynir yn fwy nag 1MB.

Bydd is-bwyllgor y Pwyllgor Dyfarniadau er Anrhydedd yn derbyn, yn asesu ac yn penderfynu pa rai o'r enwebiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a bydd y Canghellor yn dethol y ddau enillydd.

Sylwer bod rhaid i'r Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Pennaeth yr Ysgol neu Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Proffesiynol perthnasol gymeradwyo ceisiadau gan staff yn ffurfiol.

Os oes gennych chi ymholiadau o ran gwobr eleni, e-bostiwch ni yn VC@abertawe.ac.uk

Y Camau Nesaf

I gyflwyno cais, lawrlwythwch y ffurflen gais: Ffurflen Cais am Wobr y Canghellor a'i hanfon at VC@abertawe.ac.uk gyda'r llinell bwnc ‘Cyflwyno Cais am Wobr y Canghellor’, cyn y dyddiad cau ganol nos, nos Sul 9 Mawrth 2025.

Amserlen

Dydd Sul 9 Mawrth 2025: Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau

Mawrth 2025: Bydd is-grŵp o'r Pwyllgor Dyfarniadau er Anrhydedd yn adolygu enwebiadau 

Ebrill 2025: Bydd y Canghellor yn adolygu ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer

Mai 2025: Cyhoeddir yr enillwyr a bydd eu proffiliau'n ymddangos ar wefan ein Prifysgol

Yr wythnos sy'n dechrau ar 21 Gorffennaf 2025: Cyflwynir gwobrau yn ystod Seremoni Raddio Prifysgol Abertawe

Enillwyr blaenorol:

Am fanylion am y prosiectau buddugoliaethus o flynyddoedd blaenorol, dilynwch y dolenni isod:

2022: Dyfarnwyd am gyfraniadau rhagorol at rôl ein Prifysgol fel hyrwyddwr treftadaeth a diwylliant yng Nghymru