Sefydlir y Senedd gan Siarter y brifysgol sy’n nodi "yn amodol ar reolaeth a chymeradwyaeth y Cyngor, bydd y Senedd yn rheoleiddio ac yn goruchwylio addysgu a disgyblu’r Brifysgol". Nodir pwerau a dyletswyddau’r Senedd yn Ordinhadau’r Brifysgol (Ordinhad 4).
Mae’r Senedd yn tynnu ei haelodaeth o blith staff academaidd a myfyrwyr y sefydliad ac, fel arfer, bydd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.