Mae Cyngor y Brifysgol, y corff llywodraethu, yn dymuno penodi dau aelod lleyg newydd. Penodir aelodau am gyfnod o bedair blynedd gyda'r posibilrwydd o ailbenodi am gyfnod arall, a darperir rhaglen sefydlu ynghyd â hyfforddiant parhaus. Ni roddir cydnabyddiaeth ariannol am fod yn aelod o'r Cyngor, ond telir am dreuliau teithio rhesymol o fewn y DU. Bydd aelodau'r Cyngor yn gwasanaethu ar bwyllgorau eraill y Cyngor, yn ogystal â chyfrannu at agweddau eraill ar fywyd y Brifysgol.
Croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ddarpar ymgeiswyr sydd â phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel uwch yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o lywodraethu corfforaethol. Mae'r Brifysgol yn chwilio'n benodol am Lywodraethwyr â phrofiad o reoli ystadau, y sectorau masnachol, digidol, seiber ac AI.
I gyflwyno cais, anfonwch eich CV ynghyd â mynegiant o ddiddordeb at Ysgrifennydd y Brifysgol, Louise Woollard, yn l.a.woollard@abertawe.ac.uk erbyn canol nos, nos Mercher 18 Mehefin 2025. Gellir anfon ymholiadau anffurfiol am y rôl i'r cyfeiriad hwn hefyd.
Ceir rhagor o fanylion am y Brifysgol a rôl aelod o'r Cyngor yn yma: Aelodau Lleyg Y Cyngor.