Y Cyngor yw’r corff llywodraethu ac felly’n awdurdod goruchaf y Brifysgol sy’n golygu ei fod yn bennaf gyfrifol am ymddygiad a gweithgarwch y Brifysgol a’i chynrychiolwyr. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am benderfynu cyfeiriad strategol y Brifysgol ac am faterion ariannol, eiddo, buddsoddiadau a busnes cyffredinol y Brifysgol. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd a safonau darpariaeth academaidd y Brifysgol a’i bod yn gyflawni ei dyletswyddau yn unol â Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.
Mae’r Brifysgol yn elusen gofrestredig (Rhif 1138342) ac mae’r Cyngor yn gweithredu fel Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen.
Ysgrifennydd y Cyngor yw Ms Louise Woollard a gellir cysylltu â hi drwy e-bost (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk). Caiff rôl yr Ysgrifennydd ei diffinio yn Ordinhadau’r Brifysgol (Ordinhad 21).