Mae’r Cyngor yn cynnwys aelodau allanol, aelodau academaidd ac aelodau myfyrwyr a benodir yn unol â Statudau’r Brifysgol, a daw nifer fawr ohonynt o’r tu allan i’r Brifysgol (fe’u disgrifir yn aelodau lleyg). Nid yw’r aelodau lleyg yn derbyn unrhyw daliadau, ac eithrio treuliau, am y gwaith a gyflawnir ganddynt ar ran y Brifysgol. Wrth gael eu penodi, gofynnir i aelodau’r Cyngor lenwi ffurflen cofrestru Buddiannau. Cedwir y gofrestr fuddiannau ddiweddaraf gan yr Ysgrifennydd i’r Cyngor.
Mae gan bob aelod o’r Cyngor statws sy’n gydradd â’i gilydd ac maent yn meddu ar gyfrifoldeb cyfwerth dros y penderfyniadau a wneir ar y cyd gan y Cyngor.
Aelodaeth y Cyngor 2024