Mae’r Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg wedi’i gadeirio gan aelod lleyg o’r Cyngor ac mae’n cynnwys aelodau lleyg o’r Cyngor ac aelodau lleyg cyfetholedig. Mae’r holl aelodau yn annibynnol ar dîm rheoli’r Brifysgol er bod uwch-weithredwyr yn mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen. Mae gan y pwyllgor rôl allweddol o ran fframwaith llywodraethu’r Brifysgol gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Rheoleiddio Statudol, Rheoleiddio’r Brifysgol a Rheoleiddio Allanol wrth gyflawni ei gweithgareddau ariannol ac anariannol. O ran y materion sy’n rhan o’i gylch gorchwyl, mae’r pwyllgor yn meddu ar yr awdurdod i wneud argymhellion i’r Brifysgol, ei hunedau sefydliadol, a’i haelodau.

 

Y Cyfansoddiad Aelodaeth
Aelod Lleyg o’r Cyngor (Cadeirydd)  Mrs Marcia Sinfield
Aelod lleyg o'r Cyngor Professor Kathryn Monk
Aelod lleyg o'r Cyngor Mr Richard Thomas
Aelod lleyg o'r Cyngor Mrs Nataliya Manskova-Bains   
Aelod Lleyg Cyfetholedig Mrs Alison Vickers
Aelod Lleyg Cyfetholedig Swydd wag
Aelod o Staff y Cyngor Swydd wag
Aelod o'r Cyngor Myfyrwyr Ms Katie Wilkinson 

Cynhelir cyfarfodydd yn ystod 2025/26 ar:

Dydd Gwener 26 Medi 2025

Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025

Dydd Gwener 6 Mawrth 2026

Dydd Gwener 26 Mehefin 2026