Byddwch yn Rhan o Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe, credwn yng ngrym chwaraeon i ysbrydoli, cysylltu a thrawsnewid bywydau. Mae chwaraeon wrth wraidd ein cymuned, ac rydym yn falch o hyrwyddo cyfleoedd i bawb - os ydych am fod yn actif, gwneud ffrindiau newydd neu gystadlu ar y lefel uchaf.

Does dim ots o ble rydych chi'n dechrau, byddwch yn dod o hyd i'r cyfle cywir i chi yma yn Abertawe. O gymryd eich camau cyntaf gyda'r rhaglen Bod yn ACTIF, i fwynhau cystadleuaeth gyfeillgar a llawn hwyl i'r Chwaraeon Rhyng-golegol, neu ymuno ag un o'n 56 o glybiau chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb.

I'r rhai hynny sy'n anelu at ragoriaeth, rydym hefyd yn cynnig llwybr i chwaraeon cystadleuol, ynghyd â chymorth o'r radd flaenaf drwy ein rhaglenni perfformiad uchel mewn chwaraeon allweddol.

Dyma eich cyfle i ddarganfod cariad newydd, cyflawni eich potensial a bod yn rhan o rywbeth mwy. Yn Chwaraeon Prifysgol Abertawe, beth bynnag yw eich lefel, mae croeso i chi Fod yn Rhan Ohoni.

Cliciwch ar y lluniau isod i fod yn rhan o chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe.

Newyddion a Wybodaeth Ddiweddaraf