Ben Lucas, Cyfarwyddwr Cysylltiol Gwasanaethau Masnachol

Ben sy'n gyfrifol am bortffolio o wasanaethau a chyfleusterau ledled y Brifysgol gan gynnwys Chwaraeon Abertawe a Pharc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae Ben yn arwain ar greu a datblygu'r strategaeth gyffredinol ar gyfer chwaraeon myfyrwyr gan gynnwys eiriolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli partneriaethau allweddol a chyfleoedd masnachol. Mae gan Ben hanes hir gyda Phrifysgol Abertawe, ar ôl dechrau astudio yma fel myfyriwr israddedig yn 2000. Bu'n gweithio wedyn yn Undeb y Myfyrwyr, cyn dychwelyd yn 2011 i ymgymryd â rôl gyda'r Brifysgol.  Mae Ben yn treulio ei benwythnosau a'i wyliau yn archwilio rhannau gwylltach Cymru a thu hwnt.

BEN LUCAS, CYFARWYDDWR CYSYLLTIOL GWASANAETHAU MASNACHOL

James Mountain, Rheolwr Chwaraeon Strategol

Mae James yn rheoli cynnig chwaraeon a gweithgarwch corfforol y Brifysgol ac mae'n gyfrifol am gyflawni ein strategaeth chwaraeon, arwain y tîm rheoli, hyrwyddo cyfranogiad a pherfformiad ar draws ein holl raglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac arwain ar ddatblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol. Mae gan James gefndir mewn rheoli chwaraeon ym myd Addysg Uwch ac yn y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac mae'n frwdfrydig dros wella bywydau drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae James yn frwd dros chwaraeon ac yn treulio llawer o'i amser hamdden yn cymryd rhan mewn chwaraeon adrenalin a chwaraeon tîm.

JAMES MOUNTAIN, RHEOLWR CHWARAEON STRATEGOL

 

Shana Thomas, Rheolwr y Rhaglen Ymgysylltu

Mae Shana yn rheoli Bod yn ACTIF, sy'n ceisio cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol myfyrwyr a staff y Brifysgol drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau ar y campws ac oddi arno. Gyda gradd MSc mewn Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd y Cyhoedd, mae Shana wedi gweithio ym maes chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd am fwy nag 20 mlynedd, ar ôl dechrau fel Arbenigwr ar Weithgaredd Corfforol yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Abertawe.  Yna treuliodd 14 mlynedd fel Uwch Swyddog gyda Chwaraeon Cymru lle rheolodd nifer o berthnasoedd â thimau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol, arweiniodd ar ddatblygu chwaraeon BME yng Nghymru, yn ogystal â mentrau wedi'u seilio ar iechyd gyda Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau iechyd meddwl.  Ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr ar Fwrdd Criced Cymru, mae Shana yn frwdfrydig am weithgareddau corfforol dros les a phopeth sy'n ymwneud â chriced, chwarae a gwirfoddoli yn ei chlwb lleol, ac mae'n hoff iawn o dreulio amser yn cerdded ac yn dringo yn y mynyddoedd gyda'i theulu.

SHANA THOMAS, RHEOLWR Y RHAGLEN YMGYSYLLTU

 

Sadie Mellalieu, Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr

Mae Sadie yn rheoli llinyn 'Anelu'n Uchel' ein strategaeth chwaraeon ac mae'n gyfrifol am ddarparu cynnig chwaraeon hamdden a chystadleuol y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys 56 o glybiau chwaraeon a nifer cynyddol o raglenni rhyng-golegol.

Mae Sadie yn chwaraewr hoci brwdfrydig ac yn ddiweddar mae wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Meistri’r Byd Hoci  dros 35 oed.

Sadie Mellalieu, Aspire Programme Manager/Student Sport Manager, Swansea University

 

VERITY COOK, SWYDDOG CYMORTH I ATHLETWYR

Mae Verity yn cefnogi datblygiad parhaus amgylchedd chwaraeon er perfformiad rhagorol, gan ganolbwyntio, yn benodol, ar ddatblygu a gweithredu ein rhaglenni ysgoloriaethau chwaraeon. Mae Verity hefyd yn darparu gwasanaethau ffordd o fyw er perfformiad i athletwyr ac yn arwain datblygiad y rhaglen TASS. Mae Verity yn cefnogi athletwyr perfformiad uchel a dawnus, yn ogystal â'r chwaraeon perfformiad uchel, gan hyrwyddo lles ar draws yr amgylcheddau chwaraeon. Yn ymgynghorydd cymwysedig mewn ffordd o fyw er perfformiad, mae gan Verity brofiad helaeth o Driathlon Cymru a Nofio Cymru. Yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau teithio, nofio, rhedeg a dringo.

Verity Cook, Athlete Support Coordinator at Swansea University