Hugh Gustafson, Rheolwr Perfformiad Rygbi
Mae Hugh yn rheoli ac yn cyfrannu at y gwaith o bennu cyfeiriad strategol, arwain a goruchwylio rygbi perfformiad ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Hugh yn sicrhau llwyddiant parhaus mewn cystadlaethau BUCS a Farsiti, gan feithrin diwylliant ac amgylchedd rygbi perfformiad uchel. Mae'n sicrhau llwybr clir a chadarn i'r gêm broffesiynol ac i chwarae rygbi rhyngwladol ar draws y rhaglenni perfformiad rygbi dynion a merched. Mae Hugh yn un o hyfforddwyr sgiliau academi'r Gweilch ac yn brif hyfforddwr ar gyfer Prifysgol Abertawe a Chlwb Rygbi Abertawe. Bu'n chwarae yn y rheng flaen dros y Gweilch, y Dreigiau a thîm Cymru o dan 20 oed.
Hyfforddwyr cynorthwyol:
- Joe Thomas, Prif Hyfforddwr
Mae Joe yn brif hyfforddwr lefel 3 UKCC ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Joe yn hyfforddwr chwaraewyr ymosod a chefnwyr tîm rygbi Abertawe yng nghystadleuaeth Rygbi Uwch Cymru. Dechreuodd Joe hyfforddi gyda'r tîm lleol, Treforys RTFC, lle bu'n chwarae i dîm rygbi'r Gweilch yn ogystal â hyfforddi. Roedd Joe'n Swyddog Hyb URC yn Ysgol Gyfun Treforys lle dechreuodd flociau oedran rhanbarthol cyn symud i rygbi'r brifysgol yma yn Abertawe.
- Foard Cooksley, Prif Hyfforddwr y Menywod
Mae Foard yn Hyfforddwr Cymwysedig lefel 3. Mae Foard yn hyfforddwr â meddylfryd ymosodol sy'n mwynhau gadael i'r chwaraewyr wneud penderfyniadau ar y cae. Mae gan Foard amrywiaeth o brofiad mewn sawl amgylchedd gwahanol gan gynnwys: Ysgol Uwch Millfield, RAG y Gweilch a thîm cyntaf dynion Aberavon Green Stars, felly mae'n cynnig cyngor o safon a thactegau sefyllfaol.
- Lloyd Evans, Hyfforddwr Amddiffyn / Sgiliau
Bu Lloyd yn chwarae i'r Gweilch a chafodd Anrhydedd wrth chwarae i dîm saith bob ochr Cymru. Bu Lloyd yn ymwneud â hyfforddiant gradd oedran ac Academi Chwaraeon Gen 7s.
- Joe Grabham, Hyfforddwr Amddiffyn
Mae Joe'n hyfforddwr amddiffyn lefel 2 UKCC ym Mhrifysgol Abertawe ynghyd â'i rôl fel hyfforddwyr amddiffyn a blaenwyr tîm dan 16 Ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Trodd Joe at hyfforddi gan y bu'n rhaid iddo ymddeol o chwarae rygbi'n broffesiynol oherwydd iddo gael anaf wrth ddechrau ar lefel ranbarthol y Gweilch. Yna aeth ymlaen i gael ymgyrch lwyddiannus gydag Ardal Pen-y-bont ar Ogwr gan ennill cystadleuaeth o fri Tarian Dewer. O'r fan honno, symudodd Joe i her Rygbi Uwch BUCS gyda Phrifysgol Abertawe. Mae Joe yn hoffi seilio ei arddull hyfforddi ar ysgogi anghysur wrth hyfforddi er mwyn creu enillwyr ar y cau ac oddi arno.
- Thomas Jones, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
Thomas yw'r Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Rygbi sy'n gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, Academi'r Gweilch a Dewiniaid Aberafan. Mae profiad blaenorol Thomas yn cynnwys hyfforddi tîm dan 18 Cymru. Y tu hwnt i rygbi, mae gan Thomas ddiddordeb mawr mewn chwaraeon gornest a chroes-hyfforddi. Mae ei athroniaeth hyfforddi'n seiliedig ar gofleidio'r gwaith caled a chanfod llawenydd yn y broses o ddatblygiad corfforol.