
Hugh Gustafson, Rheolwr Perfformiad Rygbi
Mae Hugh yn rheoli ac yn cyfrannu at y gwaith o bennu cyfeiriad strategol, arwain a goruchwylio rygbi perfformiad ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Hugh yn sicrhau llwyddiant parhaus mewn cystadlaethau BUCS a Farsiti, gan feithrin diwylliant ac amgylchedd rygbi perfformiad uchel. Mae'n sicrhau llwybr clir a chadarn i'r gêm broffesiynol ac i chwarae rygbi rhyngwladol ar draws y rhaglenni perfformiad rygbi dynion a merched. Mae Hugh yn un o hyfforddwyr sgiliau academi'r Gweilch ac yn brif hyfforddwr ar gyfer Prifysgol Abertawe a Chlwb Rygbi Abertawe. Bu'n chwarae yn y rheng flaen dros y Gweilch, y Dreigiau a thîm Cymru o dan 20 oed.

Nick White, Prif Hyfforddwr
Mae Nick yn ymwneud â hyfforddiant llwybr â'r Gweilch, ac mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr gyda Phen-y-bont ar Ogwr o fewn Uwch-gynghrair Cymru.