Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i chwarae ein rhan wrth gynnal gwerthoedd a grym chwaraeon, a meithrin ethos o chwaraeon glân fel rhan werthfawr ac annatod o fywyd chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o'n chwaraeon lefel hamdden i’n chwaraeon elitaidd.
Mae gan bob cyfranogwr mewn chwaraeon yr hawl i gystadlu mewn Chwaraeon Glân.
Mae Prifysgol Abertawe wedi mabwysiadu barn Asiantaeth Atal Camddefnyddio Cyffuriau'r Deyrnas Unedig (UKAD) ac Asiantaeth Ryngwladol Atal Camddefnyddio Cyffuriau (WADA), sef bod twyllo, a defnyddio cyffuriau, mewn chwaraeon yn mynd yn groes i ysbryd chwaraeon mewn ffordd sylfaenol, gan danseilio effaith chwaraeon ar y gymdeithas sydd fel arall yn effaith gadarnhaol.
I'r perwyl hwn, mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i gefnogi chwaraeon glân yn y DU yn y ffyrdd canlynol:
- Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi cenhadaeth Asiantaeth Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon y Deyrnas Unedig a WADA i hyrwyddo Chwaraeon Glân.
- Disgwylir i bob athletwr chwarae, hyfforddi a chystadlu yn unol ag ysbryd chwaraeon, gan gynnwys rheolau sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau.
- Disgwylir i bob hyfforddwr a staff chwaraeon berfformio eu swyddogaeth yn unol ag ysbryd chwaraeon, gan reolau sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau.
- Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i gefnogi atal camddefnyddio cyffuriau yn y DU mewn cydweithrediad â chyrff chwaraeon eraill.
- Ni fydd 'staff' cyflogedig na chysylltiedig yn derbyn, yn cynorthwyo nac yn cefnogi'r defnydd o sylweddau a dulliau gwaharddedig mewn unrhyw ffordd ar unrhyw agwedd o'u gwaith (oni bai y caiff ei ganiatáu gan Eithriad Defnydd Therapiwtig).
- Ymdrinnir â thoriadau o'r fath, neu fynd yn groes i unrhyw reolau/polisïau y cyfeirir atynt yng nghôd ymarfer/ymddygiad Prifysgol Abertawe, fel y bo'n briodol.
- Disgwylir i bob aelod o staff cyflogedig a chysylltiol gysylltu â'r Asiantaeth Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon y Deyrnas Unedig os byddant yn dod yn ymwybodol o athletwr neu aelod NGB sydd naill ai'n defnyddio, neu'n ystyried defnyddio, sylwedd neu ddull gwaharddedig. Dylid cysylltu'n gyfrinachol ar y llinell Adrodd am Gamddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon.
- Bydd Prifysgol Abertawe yn cadarnhau unrhyw gosbau a roddir i athletwr gan yr Asiantaeth Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon y Deyrnas Unedig neu unrhyw gorff cysylltiedig arall, yn unol â'r Côd Rhyngwladol ar Gamddefnyddio Cyffuriau.
Defnyddio atchwanegiadau
Ni allwn warantu nad oes sylweddau gwaharddedig mewn unrhyw atchwanegiad. Felly, mae UKAD yn argymell y dylai athletwr asesu'r risg o ddefnyddio atchwanegiadau deietegol drwy gynllun lleihau risgiau megis Informed Sport.
Mae Informed Sport yn rhaglen sicrhau ansawdd fyd-eang i gynnyrch maeth chwaraeon, cyflenwyr y diwydiant maeth chwaraeon a chyfleusterau gweithgynhyrchu atchwanegiadau. Mae'r rhaglen yn ardystio bod pob llwyth o gynnyrch atchwanegiad a/neu ddeunydd sydd â'r logo Informed-Sport arno wedi'i brofi am sylweddau gwaharddedig gan labordy atal dopio o safon fyd-eang yr LGC.
Mae Informed Sport yn cynnig lefel uwch o sicrwydd i athletwyr nad oes gan y cynnyrch rydych chi'n dymuno ei ddefnyddio unrhyw sylweddau gwaharddedig ynddo, o'i gymharu â chynhyrchion nad ydynt wedi cael eu profi mewn llwyth fel hyn.
Atebolrwydd Llym
Golyga atebolrwydd llym mai athletwyr yn unig sy'n gyfrifol am unrhyw atchwanegiad/sylwedd maent yn eu defnyddio, yn ceisio eu defnyddio neu a geir yn eu systemau, waeth sut cyrhaeddodd yno neu a oedd bwriad i dwyllo ai peidio.
Dolenni ac adnoddau defnyddiol
Asiantaeth Atal Camddefnyddio Cyffuriau y DU
www.ukad.org.uk
Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau
www.wada-ama.org
Cyfeiriadur Cyffuriau Byd-eang Ar-lein
http://www.globaldro.com
Twitter @SportSwans