Rydym yn annog ceisiadau am ysgoloriaethau chwaraeon gan fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn cystadlu ar lefel uwch yn y gamp o'u dewis.

Rydym yn defnyddio proses cyflwyno ceisiadau ar-lein syml. Ar gyfer Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau'r ffurflen ar-lein fer isod.  

I gwblhau'r ffurflen a chael eich ystyried am un o'n hysgoloriaethau, bydd angen i chi gyflwyno cymaint o dystiolaeth â phosib i ddangos eich lefel bresennol o allu chwaraeon, gan gynnwys cyflawniadau yn y maes, nodau, yn ogystal â dau ganolwr wedi'u henwi i ategu eich cais. Hefyd, bydd angen arnoch eich rhif UCAS, neu eich rhif myfyriwr os ydych yn fyfyriwr presennol.

Ble Gallaf Gyflwyno Cais Am Ysgoloriaeth Chwaraeon Ym Mhrifysgol Abertawe?

Gall israddedigion wneud cais am Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe gan ddefnyddio’r ffurflen isod rhwng Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025 trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein fer isod. Byddwn yn ailagor ceisiadau am gyfnod byr yn ystod y cyfnod clirio yn Awst.

Cais israddedig

Ceisiadau Am Ein Hysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elit

Dylai athletwyr rhyngwladol sydd am gyflwyno cais am ein Hysgoloriaeth Chwaraeon Rhyngwladol Elît e-bostio mynegiant o ddiddordeb atom. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Gallwch ddarllen ein cwestiynau cyffredin am gyflwyno cais am un o’n Hysgoloriaethau Chwaraeon a'r broses ddyfarnu isod:

 

Cwestiynau Cyffredin Am Geisiadau Am Ysgoloriaethau Chwaraeon Abertawe A'r Broses Ddyfarnu

Cymhwysedd

Pryd i gyflwyno cais

Sut i gyflwyno cais am ysgoloriaeth chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe

Gwybodaeth am yr ysgoloriaeth

Ceisiadau ôl-raddedig

Daw'r cyfnod cyflwyno cais am ysgoloriaeth i ben ar 22 Tachwedd

Cais ôl-raddedig