Dysgwch ragor am y datblygiadau ar Gampws Singleton sy'n rhan o'n rhaglen Datblygu Campws a ddechreuodd yn 2010.
Gwyddor Data
Mae'r Adeilad Gwyddor Data yn ychwanegu at Adeiladau 1 a 2 Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) yr Ysgol Feddygaeth. Agorodd yn haf 2015 gan ddod â dwy Ganolfan Ragoriaeth at ei gilydd o dan un to, sef Sefydliad Farr Ymchwil Gwybodeg Iechyd gwerth £2015 miliwn a Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRC Cymru) newydd gwerth £8 miliwn, gan alluogi i ymchwilwyr gydweithio i ryddhau potensial data ar raddfa fawr i gynnal ymchwil pwerus newydd.
Mae'r cyfleuster ymchwil 2,900m² yn bosib drwy ariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Llywodraeth Cymru; bydd yn parhau â'r prosesau cynllunio ac adeiladu arloesol a ddefnyddir yn ILS 1 a 2; ac mae Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) wedi'i ardystio'n Rhagorol, gan ychwanegu at ymrwymiad y Brifysgol i ystâd gynaliadwy.
Gweledigaeth yr Adeilad Gwyddor Data yw creu canolfan o safon fyd-eang mewn ymchwil, hyfforddiant a datblygu e-Iechyd a data gweinyddol drwy gyfleusterau dadansoddi a chysylltu data pwerus a chadarn o'r radd flaenaf. Bydd yr adeilad rhyngddisgyblaethol heb ei ail yn ferw o arloesedd, gan ganiatáu i ymchwilwyr a staff y GIG a diwydiannau i weithio gyda'i gilydd ar wyddor data sydd ar flaen y gad, gan ddiogelu preifatrwydd.
Bydd ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolbwynt i'r gwaith i sicrhau bod manteision y math hwn o waith yn dderbyniol ac yn weledol. Bydd cydweithio yn ysgogi cynhyrchiad gwahanol ddatrysiadau gwybodeg i danategu darpariaeth gwasanaethau a thriniaethau gwell ac sydd wedi'u targedu ar gyfer cleifion y GIG a manteision cyhoeddus ehangach.
Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Mae ILS2 wedi'i leoli ar dir Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) ac yn cael ei reoli gan Brifysgol Abertawe. Y prif adrannau sy'n rhan o'r cyfleuster yw:
- Y Ganolfan Nanoiechyd (CNH): mae'r Adran newydd hon yn canolbwyntio ar greu cynnyrch sy'n cyfuno nanobeirianneg â chymwysiadau biolegol.
- Uned Ymchwil Clinigol (CRU): yn ymchwilio i driniaethau meddygol arloesol ar gyfer afiechydon cyffredin.
- Adran CHIRAL: ymchwil i ddulliau effeithiol o ddosbarthu gwybodaeth feddygol.
- Yr Adran Sganio: cyfleusterau ymchwil sganio MRI a CAT uwch.
- Unedau Swyddfa "Deori": swyddfeydd i'w rhentu ar gyfer detholiad o gwmnïau sy'n gweithio ym maes gwyddor bywyd.
Tŷ Fulton
Fel rhan o strategaeth hirdymor i ailwampio Tŷ Fulton, gwnaed y gwelliannau a ganlyn:
- Newid swyddfeydd yr hen Wasanaethau Arlwyo a swyddfeydd Swyddogion Gwasanaethau Cynadledda i ofod swyddfa newydd a phrif dai bach Tŷ Fulton;
- Amnewid y gorchudd sy'n dal dŵr, yr insiwleiddio ac ochrau'r prif do;
- Ailwampio pont gyswllt y gorllewin;
- Darparu ardaloedd astudio anffurfiol a newid y dodrefn yn y Ffreutur;
- Newid yr ystafelloedd bwyta ar y trydydd llawr a darparu cynteddau newydd – sy'n creu gofod addysgu newydd ar gyfer hyd at 380 o fyfyrwyr;
- Datblygu ardal fanwerthu newydd 200 metr sgwâr, siop goffi newydd a man gwerthu bach;
- Troi'r ganolfan iechyd gynt yn Ganolfan Gyngor i Fyfyrwyr;
- Ailwampio'r ardal gymunedol ar y llawr gwaelod;
- Derbynfa bwrpasol ym mynedfa'r llawr gwaelod i fod yn ganolbwynt i ymwelwyr â Thŷ Fulton;
- Ailwampio ochr dde-ddwyreiniol y llawr gwaelod i gyd-fynd ag ochr dde-orllewinol yr adeilad;
- Ailorchuddio canopi'r fynedfa;
- Ailgartrefu'r Swyddfa Rheoli Diogelwch i sicrhau diogelwch a diogeledd y miloedd o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr sy'n defnyddio Campws Parc Singleton.
Adeilad Faraday
Yn 2012, gwnaethpwyd gwaith gwerth £2.75 miliwn i weddnewid adeilad darlithio Faraday.
Cafodd y wyneb presennol o amgylch yr adeilad cyfan ei ddisodli gan lenfur gwydr lliw cyfoes a system cladin, gan ychwanegu ychydig o liw yr oedd angen mawr amdano i'r prif lwybr drwy'r campws.
Adeilad Wallace
Adeiladwyd yr Adeilad Gradd II Rhestredig mewn dau gam rhwng 1953 a 1961. Erbyn 2012 roedd angen ailwampio'r adeilad yn sylweddol er mwyn darparu gofod addysgu hyblyg ac ymarferol, gwella cyfleoedd i ddarparu mannau cymdeithasol, gwneud y mwyaf o'r gofod mewn adeilad o gelloedd, a gwella'r profiad i fyfyrwyr o ganlyniad i hynny.
Adeilad Grove
Adeilad Grove yw prif leoliad yr Ysgol Feddygaeth. Oherwydd gofynion addysgu newidiol, technoleg newydd a chynnydd yn y nifer o fyfyrwyr, roedd rhaglen o newidiadau ac ailwampio yn angenrheidiol, a ddigwyddodd dros ddau gam.
Yn 2010, roedd y gwaith ailwampio yn cynnwys gosod ffenestri dwbl alwminiwm, newid hen stordy yn ystafell gyffredin ôl-raddedig a newid labordy diangen yn swyddfeydd i staff addysgu.
Roedd y gwaith yn 2011 yn cynnwys ailwampio tai bach drwy'r holl adeilad, ailaddurno mannau cyffredin, newid hen labordy yn fan addysgu sgiliau clinigol a newid labordy arall yn ystafell ddarlithio feddygol.
Defnyddiwyd gorffeniadau lliwgar a gwydn, ond rhad, i wella'r amgylchedd i fyfyrwyr a staff.
Cemeg
Mae ein labordai addysgu newydd o'r radd flaenaf yn cael eu hadeiladu fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i greu canolfan ar gyfer yr ymchwil Gwyddorau Cemegol o ansawdd uchel a gynhelir yn y Colegau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Meddygaeth.
Creu Taliesin
Bydd y Parth Dysgu i Fyfyrwyr a Chreadigrwydd gwerth £2 miliwn yn cyfoethogi profiad myfyrwyr drwy gynnig man hyblyg i fyfyrwyr lle gallant astudio, dysgu, archwilio, cwrdd a chreu gweithgareddau, boed yn unigol neu drwy grwpiau a chymdeithasau.
Wedi'i leoli ar lawr gwaelod adeilad Taliesin ar gampws Singleton, bydd y gwaith adnewyddu yn mwyafu lle a golau wrth gyflwyno celfi sefydlog a chludadwy, gyda sgriniau rhannu ar gyfer creu lleoedd cwrdd a dysgu hyblyg. Bydd lle y gellir ei gadw ac ardaloedd astudio unigol hefyd ar gael.
Disgwylir y caiff y Parth Dysgu Myfyrwyr a Chreadigrwydd ei gwblhau yn gynnar yn 2018.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yw cynghorwyr y Llywodraeth ar bolisi amgylcheddol ac ecolegol.
Caiff cyfleusterau Gwasanaethau Dadansoddol NRW eu lleoli yn Adeilad Faraday Prifysgol Abertawe o fis Medi 2016. Mae'r cyfleuster yn gwasanaethu anghenion monitro amgylcheddol ac ymchwil Asiantaeth yr Amgylchedd gynt, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Yn y labordy newydd bydd staff yn parhau i gynnal gwaith dadansoddi amgylcheddol hanfodol, megis monitro lle gallai problemau fod, profi ansawdd dŵr ein traethau, ac archwilio achosion o lygru a safleoedd gwastraff anghyfreithlon.
Bydd y labordy newydd yn diwallu anghenion cyfredol a thwf NRW yn y dyfodol, ac ar ben hynny bydd yn cynnig cyfleoedd diderfyn ar gyfer mentrau ymchwil ar y cyd rhwng NRW a Phrifysgol Abertawe.
Bydd cydleoli'r gwasanaeth labordy yn y sector academaidd ac ehangu ei wasanaethau yn dod â mwy o fanteision economaidd i dde-orllewin Cymru. Bydd yn cynnig ystod ehangach a gwell o wasanaethau hefyd i NRW a chwsmeriaid posib ledled y Deyrnas Unedig a'r tu hwnt.