Mae'r datganiad am hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://suprod.service-now.com/sp
Mae’r Ddesg Wasanaeth TG wedi'i datblygu gan ServiceNow ac mae'n cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Hoffem i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r Ddesg Wasanaeth TG, teimlo bod croeso iddynt a chael budd o’r profiad. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu
- Chwyddo hyd at 200% heb i’r testun lifo oddi ar y sgrîn.
- Neidio i brif gynnwys y wefan yn ôl yr angen.
- Defnyddio darllenwyr sgrîn.
- Addasu'r bylchiadau yn y testun heb effeithio ar y drefn na'r defnyddioldeb.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r Ddesg Wasanaeth TG?
Mae’r Ddesg Wasanaeth TG, a ddatblygwyd gan ServiceNow, wedi cael ei gwerthuso'n allanol a chan ein harbenigwr mewnol, ac mae'r ddau yn tystio bod y Ddesg Wasanaeth TG yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o’r Ddesg Wasanaeth TG mor hygyrch ag y dylent fod:
- Nid oes gan bob delwedd destun amgen priodol.
- Nid yw peth o’r testun yn bodloni canllawiau gwrthgyferbyniad.
- Defnyddir lliw yn unig i nodi gwallau.
- Nid yw darllenwyr sgrîn yn adnabod dolenni mewn rhai moddau megis rotor ar iOS.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
E-bost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP, Y Deyrnas Unedig
Sut i ddod o hyd i’r Ganolfan Drawsgrifio: Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe - Prifysgol Abertawe
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi ymhen saith niwrnod.
Adrodd am broblemau hygyrchedd y Ddesg Wasanaeth TG
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y Ddesg Wasanaeth TG. Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:
E-bostiwch: ITservicedesk@abertawe.ac.uk neu ffoniwch: +44 01792 60(4000)
Gweithdrefn Gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Nod y brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyfarwyddyd proffesiynol ar gyfer myfyrwyr anabl, myfyrwyr ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn roi cymorth i chi os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei holl wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r Ddesg Wasanaeth TG yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1., o ganlyniad i'r achosion diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r hygyrchedd ar lefel AA sy'n ofynnol. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o'r Ddesg Wasanaeth TG nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a'r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau y byddant yn cydymffurfio.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
Gwerthusodd yr awdit mewnol sampl o gynnwys y Ddesg Wasanaeth TG a gwelwyd nad oedd yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun
Logo'r Safle
Defnyddir logo'r brifysgol ar bob tudalen ac mae’r logo yn cysylltu â’r hafan. Mae'r disgrifiad amgen yn nodi "Logo’r Porth Gwasanaeth", nid yw hwn yn ddisgrifiad digonol ac nid yw’n nodi i ble mae’r ddolen yn arwain.
Erthyglau sylfaen gwybodaeth
Nid yw rhai delweddau yn defnyddio disgrifiadau amgen ar gyfer delweddau sy'n cyd-fynd â’r cyfarwyddiadau yn yr erthyglau.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 1.4.1 Y defnydd o Liw
Dynodir gwallau mewnbynnu gan liw yn unig
Mae meysydd y ffurflen yn defnyddio seren goch i ddynodi meysydd gorfodol. Pan gwblheir y maes dan sylw mae’r seren yn troi’n llwyd.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 1.4.3 Cyferbyniad (Lleiafswm)
Testun llwyd
Mae'r dudalen lanio yn defnyddio testun llwyd ar gefndir glas golau sy'n methu’r canllawiau cyferbyniad.
Testun dros ddelweddau
Defnyddir testun o ddelweddau sydd, mewn rhai mannau, yn methu’r canllawiau cyferbyniad ac yn effeithio ar ddarllenadwyedd.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 2.4.4 Diben dolenni
Nid yw dolenni'n ymddwyn yn ôl y disgwyl mewn rhai moddau darllen sgrîn
Nid yw dolenni’r bar dewislen yn ymddangos fel y disgwylir mewn offer darllen sgrîn fel Rotor (VoiceOver) a rhestr elfennau (NVDA). Mae hyn hefyd yn digwydd yn Talkback ar gyfer Android.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 4.1.1 Dosrannu
Priodoleddau HTML ac ARIA ansafonol
Cyflwynwyd y ffynhonnell i ddilysydd WS3 a dangosodd hyn nifer o briodoleddau HTML pwrpasol a phriodoleddau ARIA nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir.
Meini prawf llwyddiant WCAG 2.1: 4.1.3 Negeseuon Statws
Mae’n rhaid ffocysu i ddarllen negeseuon gwall ar y safle symudol
Os gwneir camgymeriad wrth gyflwyno problemau neu geisiadau ar ffôn symudol mae’n rhaid ffocysu er mwyn darllen unrhyw negeseuon gwall, gan nad yw'r gwall yn cael ei gyhoeddi.
Baich anghymesur
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r wefan yn defnyddio unrhyw ddogfennau PDF, PowerPoint neu Word ar hyn o bryd.
Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF, ffeiliau PowerPoint neu ddogfennau Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Desg Wasanaeth TG yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd y Ddesg Wasanaeth TG.
Paratoi'r datganiad hwn am hygyrchedd
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 01/02/2023 a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 13/02/23.
Cafodd y wefan https://suprod.service-now.com/sp ei phrofi ddiwethaf ar 03/02/2023. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol.
Gwnaethom ddefnyddio proses ac ymagwedd gyson wrth benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae hwn ar gael yn yr adran Sut gwnaethon ni brofi’r Ddesg Wasanaeth TG
Mae ServiceNow yn cyhoeddi adroddiadau cydymffurfio sy'n seiliedig ar safon ryngwladol VPAT, sy'n ymgorffori WCAG, Adran Ddiwygiedig 508, a safonau hygyrchedd yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan ServiceNow ddogfen VPAT. Wrth ei hystyried, mae hyn yn nodi ei bod yn cydymffurfio'n rhannol â meini prawf AA WCAG. Sylwch y gallai hyn fod yn wahanol i'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad hwn gan fod eu hadroddiad wedi'i gyhoeddi ym mis Hydref 2022.