Prosiectau Sylfaenol Gwersyll
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
Prosiectau Sylfaenol Gwersyll 2023/24
Prosiectau Sylfaenol Gwersyll 2022/23
Cyflawni Ystwythder: Addysg Ôl-uwchradd Draws-ddisgyblaethol i Gymru
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr Natalie Wint (Uwch Ddarlithydd, Peirianneg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Wayne Thomas (Uwch Ddarlithydd, Economeg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Adam Mosley (Athro Cyswllt, Hanes, Prifysgol Abertawe)
- Rhys Jones (Uwch Ddarlithydd, Y Cyfryngau, Prifysgol Abertawe)
Nod y prosiect:
Mae'r prosiect hwn yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar systemau i ddeall y ffyrdd mae addysg yn siapio gwerthoedd cymdeithasol a diwylliannol, ac yn cael ei siapio gan y rhain. Mae'n dwyn ynghyd dîm sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau rhyngwladol a ffiniau disgyblaethol i archwilio'r gwerth mae myfyrwyr yn ei gynnig i wahanol ddisgyblaethau yn ystod eu datblygiad a’r effaith mae hyn yn ei gael ar y gallu i weithio ar draws disgyblaethau a datblygu gweithlu gwydn, hyblyg, sy'n gallu cyfrannu tuag at ddyfodol teg, cynaliadwy ac arloesol. Bydd canfyddiadau'n cael eu defnyddio i gynnig argymhellion ar yr hyn sydd ei angen i hwyluso dull systemau ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi, ac i greu cwricwlwm ôl-uwchradd dysgu gydol oes ar gyfer AB ac AU.
Creu Dyfodol Cynaliadwy trwy Ddylunio Gemau
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr Geraldine Lublin (Athro Cyswllt mewn Ieithoedd Modern, Prifysgol Abertawe)
- Dr Jennifer Rudd (Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd mewn Arloesedd ac Ymgysylltu, Prifysgol Abertawe)
- Ms Marina Saez Lecue (Ymarferydd Cynradd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon)
- Dr Sean Walton (Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Claire Williams (Athro Cyswllt mewn Seicoleg, Prifysgol Abertawe)
Nod y Prosiect:
Mae'r argyfwng hinsawdd yn her fyd-eang allweddol mae “dinasyddion moesegol, gwybodus [...] Cymru a'r byd” yn ei hwynebu ac y mae'r Cwricwlwm Newydd i Gymru yn ceisio ei ddatblygu, i. Er bod “cefnogi ymddygiad cynaliadwy” yn gam allweddol yn y daith tuag at y “Gymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang” sy’n cael ei dychmygu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ii mae'r rheidrwydd hwn yn mynd y tu hwnt i Gymru ac yn unol â'r anghenion byd-eang sydd wedi’u nodi yn Nodau Deddf Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae addysg hinsawdd effeithiol yn gofyn am “symud oddi wrth ddulliau dysgu ac addysgu mwy traddodiadol” .iii Nid yw defnyddio gemau ar gyfer addysg hinsawdd yn beth newydd; mae ymchwil wedi dangos eu bod nhw’n “addas iawn i gyfathrebu am wyddoniaeth newid hinsawdd i bobl ifanc” iv a “gallent gyfrannu at ddysgu, lliniaru ac addasu mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd” .v Yn hytrach na chynhyrchu gêm barod, fodd bynnag, nod ein prosiect yw defnyddio dylunio gemau er mwyn archwilio ffyrdd effeithiol o annog arferion cynaliadwy a chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd ymhlith plant oed ysgol gynradd.vi Defnyddir adnoddau addysgol trawsgwricwlaidd presennol wedi’u hariannu gan NERC sy'n canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd i ysbrydoli disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i greu eu gemau addysgol eu hunain. Rydym ni’n rhagdybio, drwy gymryd rhan yn y broses ddylunio hon, y bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o gymhlethdodau newid hinsawdd, yn ogystal â chynhyrchu gemau y gellir eu defnyddio fel offer addysgol eu hunain.
Robot Cymdeithasol ar gyfer Lles Meddyliol wedi'i Gyd-ddylunio gyda Phobl Hŷn
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr Deepak Sahoo (Athro Cyswllt mewn Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Muneeb Ahmad (Darlithydd Cyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Martin Hyde (Athro Cyswllt mewn Gerontoleg, Prifysgol Abertawe)
Nod y Prosiect:
Rydym ni’n rhagweld y gall robotiaid cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio ar y cyd â phobl hŷn sydd â phrofiad o dechnoleg gefnogi agweddau emosiynol, gwybyddol, cymdeithasol a pherthynol ar eu bywydau, e.e., mynd i'r afael â materion pryder, cymhelliant a hyder yn oes endemig COVID.
Yn ddiweddar, mae ymchwilwyr mewn roboteg i bobl hŷn yn datblygu prototeipiau yn bennaf i gynorthwyo gyda gweithgareddau corfforol, e.e., paratoi pryd o fwyd neu symudedd. Yn yr un modd, mae angen llawer o ymchwil ar agweddau emosiynol, gwybyddol, cymdeithasol a pherthynol eu bywydau [5]. Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau o robotiaid cymdeithasol ar gyfer lles meddyliol yn defnyddio robotiaid cymdeithasol presennol wedi’u dylunio gan arbenigwyr, e.e. PARO a NAO, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gleifion dementia oedrannus [4]. Mae ymchwilwyr HCI wedi defnyddio'r dull cyd-ddylunio yn bennaf i archwilio achosion o ddefnyddio ac ymchwilio i ddefnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr robotiaid cymdeithasol masnachol (e.e., Pepper) mewn clinigau a chartrefi gofal [6]. Fodd bynnag, mae angen eu cyfryngu gan arbenigwr, oherwydd y pryder o ddifrodi'r robot a diffyg cymhelliant ac ymgysylltiad - mae'r materion hyn yn gyfarwydd ym mywydau pobl hŷn fel y soniwyd uchod.
Rydym ni’n cynnig dull hollol wahanol i fynd i'r afael â'r cyfyngiadau hyn a chreu dyfodol gwydn, teg a chynaliadwy i bobl hŷn gyffredin. Byddwn yn cyd-ddylunio gyda phobl gyffredin hŷn sydd â phrofiad o dechnoleg (nad ydynt yn agored i niwed) wrth greu robot cymdeithasol gan ystyried y pryder o ddifrodi robot. Byddwn yn cyd-ddylunio rhyngweithiadau a allai wneud y robot yn ddifyr, ac yn olaf, rhai achosion defnyddio a fydd yn mynd i'r afael â materion pryder, cymhelliant a hyder ar gyfer lles emosiynol, gwybyddol, cymdeithasol a pherthynol.
SGWRS HAUL: Sgyrsiau diogelwch HAUL am Agweddau Iach at Liw Haul: archwilio canfyddiadau plant ysgol a'u rhieni/gofalwyr [Cam 1]
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr Julie Peconi (Uwch Swyddog Ymchwil, Gwyddor Data Iechyd, Prifysgol Abertawe) a Dr Gisselle Tur Porres (Darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Addysg, Prifysgol Abertawe):
- Dr Rachel Abbott (Dermatolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Arweinydd Atal Canser y Croen Cymru)
- Ms Kirsty Lanyon (Cynorthwyydd Ymchwil, Gwyddor Data Iechyd, Prifysgol Abertawe)
- Dr Helen Lewis (Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Rhaglen TAR Addysgu Cynradd, Prifysgol Abertawe)
- Dr Emily Marchant (Cymrawd Ymchwil, Ymchwilydd Iechyd ac Addysg Plant, Prifysgol Abertawe)
Nod y Prosiect:
Mae'r Cwricwlwm i Gymru gyda'i faes dynodedig ar gyfer Iechyd a Llesiant ac ymreolaeth i ysgolion wrth ddylunio cynnwys y cwricwlwm, yn ffordd ddelfrydol o hwyluso'r archwiliad hwn. Un ffordd mae hyn yn cael ei wneud yw drwy glybiau 'ysgolion iach' sy’n cael eu harwain gan blant. Gan ganolbwyntio ar ddeall sut mae gwahanol ddimensiynau iechyd, e.e., lles corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol yn chwarae rôl ym mywydau plant, mae'r maes cwricwlwm Iechyd a Lles hefyd yn cefnogi plant i ymgorffori agweddau iach, a gallai rhai ohonynt gynnwys arferion lles mewn perthynas â lliw haul ac amlygiad i'r haul.
Hyd yma, ni wnaed unrhyw waith yng Nghymru yn archwilio canfyddiadau plant a'u rhieni/gofalwyr o liw haul a sut y gellir annog a mabwysiadu agweddau ac ymddygiadau iachach o oedran ifanc. Mae'r prosiect MASI Basecamp hwn a chydweithredu rhyngddisgyblaethol newydd rhwng ymchwilwyr iechyd ac addysg yn mynd i'r afael â'r her hon ac yn gweithio tuag at weledigaeth MASI o ddyfodol gwydn, llawen a gobeithiol i bob plentyn. Mae gan ein tîm ymchwil brofiad helaeth o weithio mewn ysgolion ac maen nhw eisoes wedi llwyddo i sicrhau mynediad i ysgolion er mwyn ymgymryd ag ymchwil.
Ein nod yw casglu data ynghylch canfyddiadau o liw haul ac archwilio'r effeithiau canfyddedig ar iechyd i lywio datblygiad a phrofi pecyn cymorth addysgol ar gyfer ei integreiddio o fewn y cwricwlwm newydd i annog ymddygiad iach plant tuag at liw haul ac amlygiad i'r haul.
Gwefan: Cliciwch yma
VLOG #1 gan Dr Julie Peconi, Dr Gisselle Tur Porres & Kirsty Lanyon
VLOG #2 gan Dr Julie Peconi, Dr Gisselle Tur Porres & Kirsty Lanyon
Y Gymraeg a gwella gwydnwch dementia: gweithredu lleol i gael effaith fyd-eang
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr James T Murray (Uwch Ddarlithydd yn y Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe)
- Dr Gwennan Higham (Uwch Ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Abertawe)
- Yr Athro Andrea Tales (Cyfarwyddwr CIA, Sefydliad Awen a CADR, Prifysgol Abertawe)
Nod y Prosiect:
Y Weledigaeth: Meithrin capasiti rhwydwaith ar gyfer astudiaeth genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Abertawe o ddwyieithrwydd yng Nghymru ar gyfer gwella gwarchodfa wybyddol a lleihau'r risg o ddirywiad gwybyddol a dementia. Gallai hybu rhuglder a hyfedredd yn y Gymraeg arwain at iechyd posibl yn lleol.
Tystiolaeth uniongyrchol o effaith iechyd ar wella gwarchodfa wybyddol a chanfod biofarcwyr sy'n gysylltiedig â dementia yn glinigol. Mae penderfynu a oes goblygiadau uniongyrchol i hyn o ran gwella gwarchodfa wybyddol a gohirio dechrau dementia yng Nghymru yn gofyn am ddull traws-ddisgyblaethol sy'n dwyn ymchwilwyr mewn astudiaethau iaith, niwroseicoleg a biocemeg glinigol ynghyd.
Mae dementia yn broblem fyd-eang. Mae dementia yn syndrom sy'n deillio o amrywiaeth o glefydau ac anafiadau sy'n effeithio'n bennaf neu'n eilaidd ar yr ymennydd, fel clefyd Alzheimer neu strôc.
Ar hyn o bryd, dementia yw'r seithfed prif achos o farwolaeth ymhlith pob clefyd ac mae’n un o brif achosion anabledd a dibyniaeth ymhlith pobl hŷn. Erbyn 2050, bydd nifer y bobl â dementia bron yn treblu i 139 miliwn ledled y byd [1] [2].
Nid oes unrhyw iachâd effeithiol drwy gyffuriau ar gyfer dementia. Er bod buddsoddiad enfawr mewn ymyriadau ffarmacolegol ar gyfer trin y clefydau hyn, nid oes unrhyw wellhad wedi’i ganfod. Fodd bynnag, gall dulliau newydd nad ydynt yn ffarmacolegol o ohirio dechrau dementia gynnig cyfleoedd i drin pobl ar lefel fyd-eang. Mae ymyriadau o'r fath yn cynnwys ysgogiad gwybyddol, a all amddiffyn rhag effeithiau negyddol dirywiad gwybyddol sy’n cael eu heffeithio gan glefydau niwrogenhedlol sy'n gysylltiedig ag oedran, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
Mae dwyieithrwydd yn gwella gwarchodfa wybyddol ac yn lleihau'r risg o ddirywiad gwybyddol a dementia. Mae dwyieithrwydd yn fath o ysgogiad gwybyddol sy'n defnyddio sawl agwedd ar weithgaredd yr ymennydd, gyda thystiolaeth y gall ohirio dechrau symptomau dementia mewn cleifion o tua 4—5 mlynedd trwy well gwarchodfa wybyddol. Mae dwyieithrwydd/amlieithrwydd unigol yn cael ei ystyried fwyfwy fel ffactor amddiffynnol yn erbyn dirywiad gwybyddol mewn henaint a’r gred yw ei fod yn cyfrannu at warchodfa niwral a gwybyddol [3]. Gwelwyd budd dwyieithrwydd/amlieithrwydd mewn plant, oedolion a phobl hŷn [4-8] sy’n awgrymu, o ystyried yr amodau cywir, y gall y budd i'r unigolyn fod yn hirdymor.
Mae'r rhan fwyaf o honiadau yn deillio o astudiaethau a gynhaliwyd gyda siaradwyr dwyieithog, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae tystiolaeth o wahaniaethau rhwng pobl ddwyieithog (siaradwyr dwy iaith) ac amlieithog (siaradwyr neu dair iaith neu fwy) hefyd wedi dechrau dod i'r amlwg [9]. Yn arwyddocaol i siaradwyr Cymraeg, gall profion dwyieithog cyfredol nodi'n anghywir fod gan siaradwyr Cymraeg wybyddiaeth waeth na'r disgwyl ar gyfer eu hoedran felly mae angen ymchwilio i hyn ar unwaith.
Mae cynnal dwyieithrwydd mewn cymdeithas yn broblem. Yn fyd-eang, mae 50-70% o boblogaeth y byd yn ddwyieithog, yn gallu siarad o leiaf dwy iaith yn rhugl [10]. Fodd bynnag, yn y DU mae'r niferoedd yn wael iawn, gyda llai nag 8% (cyfrifiad 2011), tra yng Nghymru mae dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg ychydig yn well ar 11% (ystadegau 2015 ar gyfer Cymru). Nid yw'r amcangyfrifon hyn yn ystyried bod yn rhaid ymarfer dwyieithrwydd fel mater o drefn ar gyfer cronfeydd gwybyddol gwell. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o astudiaethau blaenorol mewn rhanbarthau eraill yn y byd, anaml y mesurwyd lefelau rhuglder a hyfedredd, ac nid yw patrymau defnydd iaith dros amser a faint o amlygiad i amgylcheddau byw dwyieithrwydd/amlieithrwydd chwaith. Rydym ni’n gwybod bod yr holl ffactorau hyn yn effeithio ar gaffael iaith, cynnal iaith a datblygiad iaith dros amser ac felly maen nhw’n ganolog i'n dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng gwybodaeth iaith a dirywiad gwybyddol. Gallai'r ymdrechion i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a gwella rhuglder Cymraeg yn y boblogaeth roi cyfle i ddadansoddi i’r carn effaith dwyieithrwydd wrth ohirio dementia. Gallai hyn gael effaith fyd-eang a gallai ddylanwadu ar fabwysiadu strategaethau tebyg mewn mannau eraill.
Canlyniadau: Bydd dyfarniad Basecamp yn hwyluso datblygiad rhwydwaith Cymraeg sy'n ymchwilio i ddwyieithrwydd a gwydnwch dementia a fydd yn arwain at gyllid grant pellach a fydd yn canolbwyntio ar nodi llofnodion diagnostig/prognostig. Bydd y llofnodion hyn yn cael effaith fyd-eang, a fydd yn cael eu defnyddio i fonitro poblogaethau sy'n heneiddio ar gyfer effeithiolrwydd cadw iaith ar draws sawl rhanbarth lle mae dwyieithrwydd. Bydd hyn yn arwain at iaith a chadwraeth ddiwylliannol, a strategaethau gwydnwch dementia sy'n gwella rhychwant iechyd a bywyd dynol.
Ail-fframio asiantaeth mewn naratifau argyfwng hinsawdd: grymuso ieuenctid gwydn yn y De Byd-eang a'r Gogledd Byd-eang
Arweinwyr y Cynnig:
- Dr Frederico Lopez-Terra (Athro Cyswllt mewn Ieithoedd Modern, Prifysgol Abertawe)
- Dr Geraldine Lublin (Athro Cyswllt mewn Ieithoedd Modern, Prifysgol Abertawe)
- Dr Alex Southern (Darlithydd mewn Addysg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Chris Pak (Darlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Anna Pigot (Darlithydd mewn Daearyddiaeth, Prifysgol Abertawe)
- Yr Athro Andrew Kemp (Arweinydd Ymchwil Ysgol Seicoleg, Prifysgol Abertawe)
- Dr Panu Pihkala (arbenigwr Eco-bryder, Sefydliad Gwyddor Cynaliadwyedd Helsinki, y Ffindir)
- Yr Athro Roxana Rugnitz (Sefydliad Addysg Uwch (IPA)
- Yr Athro Carolina Raimondo Aonso (Sefydliad Addysg Uwch (IPA)
Nod y Prosiect:
Yn ystod y degawdau diwethaf, mae ymchwil Gwyddorau Amgylcheddol wedi dangos canlyniadau dinistriol y ffyrdd rydym ni’n byw ar ein planed ac wedi ein rhybuddio am effeithiau niweidiol cronni a thwf. Nid yw'n syndod bod mwy nag 84% o bobl yn teimlo'n bryderus am y rhagolygon ar gyfer y byd,1 gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd fel solastalgia, ofn byd-eang neu eco-bryder yn cynyddu.2 Mae'r pandemig wedi gwaethygu canfyddiadau o'r fath3 ac mae 'methiant gweithredu ar newid yn yr hinsawdd' ar frig y rhestr o risgiau byd-eang yn ôl difrifoldeb dros y 10 mlynedd nesaf.4 Fodd bynnag, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol bod angen gweithredu ar unwaith, ni allwn ddal i fyny gyda dirywiad ein planed. Beth sy’n rhwystro gweithredu ac yn bygwth goroesiad popeth byw ar y Ddaear?
Er y gall effeithiau argyfyngau fod yn ddiriaethol a real iawn, mae ein canfyddiadau a'n hymatebion yn dibynnu'n fawr ar y ffordd mae argyfwng yn cael ei gyfleu a'i gynrychioli; ei 'fywyd diwylliannol' 5 Mae adrodd straeon yn gynllun gwybyddol pwerus ar gyfer gweithredu gyda chanlyniadau dychmygus, moesegol a gwleidyddol dwys. Mae ymchwil yn awgrymu bod epistemoleg neoryddfrydol twf yn gysylltiedig â chynrychioliadau asiantaeth - neu ddiffyg hynny - gydag effeithiau niweidiol wrth ryddhau unigolion6 ac ar eu llesiant.7 Er gwaethaf ei effaith ar 'amlygiad anghyfartal i risg a mynediad anghyfartal i adnoddau',8 mae’r cwestiwn am gynrychiolaeth asiantaeth wedi cael ei anwybyddu. Dangoswyd bod arferion cwmpasog sy'n helpu unigolion i fframio digwyddiadau trawmatig yn wahanol yn ffafrio dealltwriaeth sy'n meithrin agweddau mwy rhagweithiol ar gyfer gweithredu.9 Er gwaethaf ymchwil mewn gwahanol ddisgyblaethau yn cydgyfeirio, rydym yn dal i aros am astudiaeth wirioneddol ryngddisgyblaethol sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng cynrychioliadau asiantaeth argyfwng hinsawdd a lles.
Rhaglen Ymchwil — Gweithgaredd: Bydd y prosiect hwn yn llenwi'r bwlch trwy ddod â 9 academydd at ei gilydd i ddatblygu methodoleg draws-ddisgyblaethol arloesol sy'n defnyddio naratoleg, semioteg ddiwylliannol, dadansoddi'r cyfryngau, ymholiad addysgegol agos at ymarfer a seicoleg amgylcheddol, gan gynnwys tacsonomeg emosiynau hinsawdd Pihkala.10 Nod yr astudiaeth beilot hon fydd deall (i) sut mae portreadau gwahanol o asiantaeth mewn naratifau argyfyngau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn meithrin agweddau ac emosiynau gwahanol tuag at yr amgylchedd, gan gynnwys y byd dynol (ni ein hunain ac eraill) a'r byd mwy-na-dynol (naturiol), (ii) sut y gall gwahanol fframiau naratif i ddigwyddiad unigol harneisio gwell dealltwriaeth a meithrin agweddau ac emosiynau o blaid yr amgylchedd, yn lle rhyddhau, a (iii) pha strwythurau naratif a chynrychioliadau asiantaeth a allai gyfrannu at feithrin lles ar lefel unigol a chymdeithasol.
Byddwn yn cyd-greu offer addysgegol i herio naratifau penodol a datblygu ffurfiau cyfunol o ddealltwriaeth sy'n hyrwyddo newid cadarnhaol. Gall cenedlaethau iau ymgorffori ffurfiau asiantaeth amgen yn well ac eto fod yn fwy agored i'r argyfwng hwn.11 Fel mae'r pandemig wedi ein dysgu, mae mynd i'r afael ag argyfyngau planedol yn gofyn am ymatebion cymdeithas gyfan a gweithredu ar y cyd. Bydd cyd-adeiladu gwybodaeth ar draws y rhaniad rhwng y cenedlaethau a’r rhaniad geowleidyddol a gweithio gyda phoblogaeth amrywiol o fyfyrwyr yn cyflawni cenhadaeth ddinesig y prosiect; grymuso ieuenctid ar gyfer dyfodol gwyrddach gwydn, 'lles a datblygu cynaliadwy cyfunol,' yn unol â fframwaith 'Cymhwysedd Byd-eang' PISA yr OECD.12
Yn y ddealltwriaeth bod yr hyn a elwir yn 'normal newydd' mewn gwirionedd yn fyd mewn argyfyngau parhaol - mae argyfwng bellach yn arfer yn hytrach nag eithriad - mae gweithio ar fath newydd o asiantaeth sy'n barod ar gyfer yr heriau hyn yn bwysicach nag erioed. Rhaid i'r 'eithriad newydd' ddarparu cyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol ac arfogi dinasyddion gydag offer sy'n meithrin gwahanol ontoleg sy'n wydn, yn gyfranogol, yn amrywiol ac yn wyrdd.