“…mae gwynt main yn chwythu drwy ran helaeth o’r byd ac mae mwy a mwy o bwysau ar y cysyniad o hawliau dynol”
Dyma asesiad arbenigwyr hawliau dynol blaenllaw cyn Diwrnod Hawliau Dynol 2016. Bron i ddegawd yn ôl roedd bygythiadau rhyngwladol i hawliau dynol yn cynnwys twf mudiadau poblyddol fel y’u gelwir, sy’n barod i ddefnyddio rhethreg wahaniaethol i hyrwyddo eu buddiannau eu hunain, gan hybu cynnydd dramatig mewn gelyniaeth tuag at grwpiau ethnig, grwpiau crefydd neu gred, pobl anabl, lleiafrifoedd rhywiol, mudwyr a grwpiau eraill. Yn 2016, roedd twf dramatig mewn anghydraddoldeb yn fygythiad sylweddol arall i hawliau dynol, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn tlodi. Yn bryderus iawn, wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Hawliau Dynol 2024 (10 Rhagfyr) mae’r gwynt main y siaradwyd amdano yn 2016 yn dal i chwythu’n gryf, ac os rhywbeth, mae hyd yn oed yn oerach. Mae newid hinsawdd, dirywiad amgylcheddol, gwrthdaro rhanbarthol, a’r argyfwng economaidd parhaus yn ychwanegu at y rhestr frawychus o faterion sy’n bygwth hawliau dynol ledled y byd.
Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn, ac mae’n demtasiwn i feddwl bod bygythiadau i hawliau dynol wedi’u cyfyngu i leoedd lle gwelir gwrthdaro, trychinebau naturiol neu dlodi eithafol. Ond ni fyddai’r asesiad hwn yn ddarlun cywir o realiti hawliau dynol yma yn y DU. Bydd unrhyw un sy’n poeni am hawliau dynol yng Nghymru yn ymwybodol iawn o’r cynnydd mewn gwleidyddiaeth boblyddol fel y’i gelwir a’i chanlyniadau, gan gynnwys cynnydd mewn iaith casineb a thrais tuag at leiafrifoedd. Byddant hefyd yn poeni am effaith barhaus a dinistriol tlodi, anghydraddoldeb, a gwahaniaethu sy’n gadael ei ôl ar lawer o gymunedau yng Nghymru, ac sy’n amddifadu unigolion o’u hawliau dynol sylfaenol mewn meysydd fel tai, iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn fygythiadau cyfredol a real iawn i hawliau dynol. Maent ar stepen ein drws ni yma yng Nghymru, a does dim arwydd eu bod yn lleihau.
Er gwaetha’r hyn rydw i wedi ei ysgrifennu hyd yn hyn, nid dyma’r adeg o reidrwydd i anobeithio. Mae sefydliadau rhyngwladol a rhanbarthol fel y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop yn galw ar lywodraethau i fynd i’r afael â’r bygythiadau i hawliau dynol, ac maent yn rhoi canllawiau i helpu â’r dasg hon. Yn rhyngwladol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn lleol mae llawer o bobl sy’n barod i ymgymryd â’r dasg o fod yn amddiffynwyr hawliau dynol, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau. Felly mae gobaith, ond mae llawer yn dibynnu ar barodrwydd llywodraethau i weithredu. Wrth gwrs, i bob llywodraeth, mewn unrhyw Wladwriaeth sydd wedi arwyddo unrhyw gytuniad hawliau dynol gan y Cenhedloedd Unedig, mae hyn yn ymrwymiad na ellir ei osgoi. Er gwaethaf ansicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad llywodraethau blaenorol y DU i gyflawni ymrwymiadau hawliau dynol rhyngwladol y DU, mae enw’r DU yn parhau ar lawer o gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol ‘creiddiol’. O ganlyniad, mae’r prif gyfrifoldeb am wireddu’r hawliau sydd yn y cytuniadau hyn ar ysgwyddau llywodraeth y DU. Ond mae gan bob lefel arall o lywodraeth yn y DU rywfaint o gyfrifoldeb tuag at gyflawni ymrwymiadau hawliau dynol y DU o fewn cwmpas eu pwerau: mae hyn yn cynnwys y Senedd, llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae’r trefniadau ar gyfer datganoli dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn golygu bod y dylanwad sydd gan sefydliadau Cymru ar gyfraith a pholisi hawliau dynol yn amrywio. Mae meysydd allweddol lle mae perygl i ryddid sylfaenol a phersonol yn parhau’n gyfrifoldeb i lywodraeth y DU (e.e. plismona, y system gyfiawnder, hawliau i ymgynnull a phrotestio).[1] Ond mewn meysydd eraill mae gan y Senedd a llywodraeth Cymru lawer mwy o bwerau i sefydlu deddfwriaeth a chyflwyno polisïau i arsylwi ar ymrwymiadau hawliau dynol y DU a gweithredu arnynt.[2] Yn arwyddocaol, mae llawer o hawliau (ond nid pob un) a allai gael eu disgrifio fel ‘hawliau economaidd-gymdeithasol’ yn gyfrifoldeb i sefydliadau Cymreig, gan gynnwys mewn meysydd pwysig megis sicrhau safonau byw addas, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, ac addysg. Mae’r rhain yn feysydd sy’n faterion o bwys i gyfraith a pholisi yng Nghymru, a lle mae hawliau dynol yn sail glir ac uniongyrchol i ymrwymiadau’r llywodraeth a beth y byddai’n rhesymol i bobl yng Nghymru ei ddisgwyl fel amcanion polisi cyhoeddus. Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICSECR) yw’r ffynhonnell fwyaf arwyddocaol sy’n gwarantu hawliau economaidd-gymdeithasol i bawb. Ond mae dogfennau hawliau dynol eraill yn cyflwyno safonau cwbl resymol i bolisi’r llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys dogfennau sy’n amlinellu hawliau economaidd-gymdeithasol penodol ac arbennig i fenywod, pobl anabl, a phlant.
Yn gynharach eleni nododd Amnesti Rhyngwladol fod anghydraddoldeb economaidd yn cael effaith andwyol ac anghymesur ar hawliau dynol cymunedau sydd ar y cyrion. Mae hwn yn asesiad a fydd yn taro tant gyda llawer o bobl yng Nghymru. Yn y dyddiau anodd hyn, lle mae tlodi, anghydraddoldeb, a gwahaniaethu yn cael eu gweld fel y prif heriau sy’n wynebu llywodraeth Cymru, mae safonau hawliau dynol rhyngwladol yn cynnig llwyfan cadarn i adeiladu polisïau arno a gweithredu er mwyn hyrwyddo hawliau dynol economaidd-gymdeithasol i bawb, yn enwedig pobl sy’n wynebu gwahaniaethu ac anfantais. Mae’r safonau a nodwyd yn ICESCR a chonfensiynau eraill yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi economaidd-gymdeithasol. Yn ychwanegol at hyn, mae cyrff rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig, yn darparu canllawiau manwl ynglŷn â beth mae’n ei olygu i weithredu a gwireddu (neu gyflawni) hawliau dynol economaidd-gymdeithasol. Yn arwyddocaol i ni yma yng Nghymru, mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at gydnabyddiaeth gyfreithiol o hawliau economaidd-gymdeithasol er mwyn helpu i sicrhau bod y categori hawliau hwn yn cael ei barchu, ei ddiogelu a’i gyflawni’n briodol gan lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae canllawiau gan gyrff y cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys arbenigwyr blaenllaw ar hawliau dynol megis y Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, yn nodi’n gyson pa mor bwysig yw cael cydnabyddiaeth gyfreithiol ac ymgorffori hawliau dynol economaidd-gymdeithasol mewn cyfraith genedlaethol. Cefnogir y canllawiau hyn gan gorff cryf o ymchwil sy’n dangos gwerth ymgorffori er mwyn diogelu a hyrwyddo hawliau dynol.
Bydd llawer o ddarllenwyr y blog hwn yn ymwybodol bod sefydliadau cymdeithas sifil yma yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro ac yn galw am ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol sy’n diogelu ac yn hybu buddiannau menywod a phobl anabl, a’r hawl i dai addas.[3] Mae’r sefydliadau hyn yn derbyn eu harweiniad gan y bobl y maent yn eu cynrychioli, pobl y mae eu profiadau dros ddegawdau yn cadarnhau bod llawer o fylchau yn y ffordd y mae eu hawliau yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi cael eu hysbrydoli gan y ffaith fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Senedd erbyn hyn) wedi ymgorffori’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng Nghyfraith Cymru yn 2011, gan ei wneud yn rhan o’r fframwaith cyfreithiol sy’n rheoli ymddygiad Gweinidogion Cymru.[4] Mae hefyd yn cael ei ysbrydoli gan ymchwil sy’n cadarnhau bod ymgorffori’r confensiwn wedi dod â llawer o fanteision i blant yng Nghymru. Yn 2018, cadarnhaodd adroddiad (wedi’i gomisiynu) gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod ymgorffori’r CCUHP wedi arwain at fwy o amlygrwydd a sylw manylach i hawliau plant mewn polisi, at ddiwylliant o hawliau plant yn llywodraeth Cymru, at gyflwyno’r prosesau sy’n mynnu y dylid rhoi sylw i hawliau wrth ddatblygu polisi (gan gynnwys asesu effaith a hyfforddiant), ac at well canlyniadau polisi.[5] Canfu hefyd fod ymgorffori wedi darparu llwyfan cadarn ar gyfer cefnogi polisi a chraffu ar benderfyniadau Gweinidogol sy’n effeithio ar blant, gan gynyddu atebolrwydd am hawliau. Yn fyr, ers ymgorffori’r confensiwn, mae Cymru yn wlad sy’n amlwg yn dangos mwy o barch at hawliau plant.
Ar hyn o bryd mae llawer o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yng Nghymru yn profi diffygion yn eu hawliau dynol economaidd-gymdeithasol. Yn ogystal, mae’r argyfwng economaidd byd-eang presennol yn golygu bod llawer o bobl yng Nghymru mewn perygl o weld dirywiad yn eu hawliau economaidd-gymdeithasol heddiw ac yn y dyfodol, e.e. drwy effaith cyni, diweithdra, cynnydd yng nghostau bwyd, tai a chyfleustodau, a llai o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. O ystyried hyn, nid yw’n syndod bod prosiect ymchwil mawr a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru wedi darganfod awydd cryf yn 2021 gan sefydliadau cymdeithas sifil sy’n cynrychioli unigolion a chymunedau, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig amrywiol, i ymgorffori rhagor o hawliau dynol rhyngwladol yng Nghyfraith Cymru. Canfu’r ymchwil fod y cyfranogwyr hyn yn gefnogol iawn, a bod tystiolaeth gref hefyd y byddai ymgorffori’n fuddiol iawn o ran gweithredu hawliau dynol ac atebolrwydd amdanynt yng Nghymru.[6] Ar sail y canfyddiadau clir hyn argymhellodd yr ymchwil y dylai llywodraeth Cymru gyflwyno bil (Bil Hawliau Dynol) er mwyn ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol dethol yng Nghyfraith Cymru mewn ffordd sy’n ymrwymo ac yn orfodadwy yn erbyn Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n ymarfer swyddogaethau datganoledig.
Mewn symudiad a gododd rywfaint o’r digalondid sy’n bodoli ar hyn o bryd ynghylch hawliau dynol, ymrwymodd llywodraeth Cymru i ymgorffori hawliau menywod a hawliau pobl anabl yng Nghyfraith Cymru.[7] Derbyniodd hefyd yr argymhelliad ar ymgorffori a oedd yn deillio o ymchwil 2021 a sefydlodd weithgor yn cael ei arwain gan gymdeithas sifil sydd ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer cyflwyno hyn.[8]
Heddiw, wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Hawliau Dynol mae bygythiadau byd-eang parhaus i hawliau dynol yn amlygu eu hunain yn gwmwl du uwch ein pennau ni yma yng Nghymru. Mae’r argyfwng economaidd, sy’n debygol o barhau am dipyn eto, yn rhwystr parhaus i hawliau dynol economaidd-gymdeithasol llawer o bobl yng Nghymru. Er gwaethaf newid yn llywodraeth y DU, a rhywfaint o optimistiaeth fod y weinyddiaeth bresennol yn fwy agored i hawliau dynol na’i rhagflaenydd, nid oes sicrwydd na fydd dylanwad gwleidyddiaeth boblyddol fel y’i gelwir yn gwanhau ewyllys gwleidyddion yn San Steffan i hyrwyddo hawliau a buddiannau grwpiau lleiafrifol a grwpiau sy’n cael eu gwahaniaethu. Yn fwy hirdymor, mae gwleidyddiaeth Prydain yn anorfod yn ymwneud â newid, ac ni ellir diystyru’r posibilrwydd o ddychwelyd at lywodraeth sy’n agored elyniaethus at hawliau dynol.
Am yr holl resymau hyn mae angen i lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith. Mae angen iddi weithredu yn bendant, ac â chydwybod, gan ddefnyddio’r cyfle y mae datganoli’n ei roi i ni er mwyn diogelu a hyrwyddo hawliau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae ar Gymru angen arweinyddiaeth hawliau dynol ac mae angen i lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Hawliau Dynol i Gymru er mwyn ymgorffori hawliau economaidd-gymdeithasol rhyngwladol yng Nghyfraith Cymru.
Yr Athro Simon Hoffman
Rhagfyr 2024
[1] Deddf Llywodraeth Cymru 2006, atodlen 7A / Government of Wales Act 2006, sch.7A
[2] N.1, atodlen 7A, para.10(3)(a).
[3]CEDAW: Bil rhyngwladol o hawliau Menywod - Womens Equality Network Wales / CEDAW: An International ‘Bill of Women’s Rights’ - Womens Equality Network Wales / Dewch a'n Hawliau i Ni: Maniffesto Pobl Anabl - Disability Wales / Bring Us Our Rights: Disabled People's Manifesto - Disability Wales / Hafan - Tai Pawb / Back the Bill campaign – Tai Pawb
[4] Hawliau plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU / Children's rights in Wales | GOV.WALES
[5] Effaith Integreiddio Cyfreithiol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru / The Impact of Legal Integration of the UN Convention on the Rights of the Child in Wales
[6] Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru | LLYW.CYMRU / Strengthening and advancing equality and human rights in Wales | GOV.WALES
[7]Camau gweithredu i gryfhau hawliau dynol yng Nghymru: 2018 i 2022 [HTML] | LLYW.CYMRU / Action to strengthen human rights in Wales: 2018 to 2022 [HTML] | GOV.WALES
[8] Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ar Hawliau Dynol | LLYW.CYMRU / Report / Human Rights Legislative Options Working Group | GOV.WALES