Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi dawn ragorol sy'n datblygu mewn gwahanol feysydd ymchwil cyffrous. Disgwylir i Rownd 9 Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI agor ym mis Chwefror 2024, gydaraftd cau UKRI ar gyfer ceisiadau i’w cadarnhau. Mae'n cynnig cymorth hirdymor a hyblyg, gan gynnwys cyflog y cymrawd a chostau ymchwil, staff a hyfforddiant, yn ogystal â'r cyfle i gael swydd academaidd barhaol ar ôl cwblhau'r gymrodoriaeth yn llwyddiannus. Oherwydd natur hynod gystadleuol y cymrodoriaethau hyn a therfyn ar nifer y ceisiadau llawn y caiff pob sefydliad eu cyflwyno, mae'r Brifysgol yn cynnal galwad am Fynegiannau o Ddiddordeb gan staff mewnol ac allanol.
Dyddiad cau Mynegi Diddordeb yw 29 Ionawr 2024, 10am.
Bydd yr Hybiau Ymchwil ac Arloesi yn cynnal gweminar ar 15 Ionawr am 11.00yb (drwy Zoom) i ddarparu gwybodaeth gychwynnol am y cynllun a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Gallwch gofrestru am y weminar yma.
CAEL MWY O WYBODAETH TRWY YMUNO Â'N WEBINAR
Bydd yr Hybiau Ymchwil ac Arloesi yn cynnal gweminar ar 18 Ionawr am 1:00yp (drwy Zoom) i ddarparu gwybodaeth gychwynnol am y cynllun a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Gallwch gofrestru am y weminar yma.
Amcanion Cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yw:
Datblygu, cadw, denu a chynnal dawn ymchwil ac arloesi yn y DU:
- Meithrin llwybrau gyrfa ymchwil ac arloesi newydd gan gynnwys y rhai sydd ar y ffiniau rhwng y byd academaidd/byd busnes a'r ffiniau rhyngddisgyblaethol, a hwyluso cyfleoedd i bobl symud rhwng sectorau
- Darparu cyllid ac adnoddau parhaus ar gyfer yr ymchwilwyr gyrfa gynnar a’r arloeswyr gorau
- Darparu cyllid hirdymor a hyblyg i fynd i'r afael â heriau anodd a newydd, a chefnogi rhaglenni anturus ac uchelgeisiol.
Beth mae'r Gymrodoriaeth yn ei gynnig
Bydd buddsoddiad hyd at £1.5 miliwn dros bedair blynedd, a'r gallu i estyn hynny hyd at saith mlynedd, yn galluogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arloeswyr i elwa o gymorth rhagorol i feithrin eu gyrfaoedd a gweithio ar heriau anodd a newydd.
Mae cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol wedi ariannu cymrodoriaethau gwerth rhwng £300,000 a thros £2 filiwn, ac nid yw'n rhoi blaenoriaeth i geisiadau ar sail cost isel na chost uchel.Cymorth i ymgeiswyr o lwybrau gyrfa amrywiol, gan gynnwys y rhai sy'n dychwelyd o seibiant gyrfa neu'r rhai sydd wedi treulio amser mewn rolau eraill. Mae'r cymorth sydd ar gael yn hirdymor ac yn hyblyg, ac mae saith mlynedd o gymorth ar gael ar sail model 4 (+3) blynedd.
Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cymorth ychwanegol sylweddol i gefnogi ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys:
- Dyfarniad hael, gwerth £50,000,
- cyllid i recriwtio myfyriwr PhD amser llawn
- llwybr gyrfa i swydd barhaol fel Uwch-ddarlithydd ar ddiwedd y gymrodoriaeth, ynghyd â
- mentora a chymorth gan y Gyfadran a'r Gwasanaethau Proffesiynol, e.e. cymorth i ysgrifennu cais.
Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth a gymeradwywyd gan yr adran letyol.
Cymhwysedd:
Mae'r cymrodoriaethau hyn ar gyfer academyddion gyrfa gynnar ac arloeswyr sy'n pontio i fod yn annibynnol neu'n sefydlu hynny. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r Fanyleb Person yn y canllawiau i'r alwad - Atodiad B - i asesu a chyfiawnhau eu haddasrwydd am y cynllun gan gyfeirio at amcanion y rhaglen.
Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar ddoethuriaeth erbyn dyddiad dechrau'r gymrodoriaeth NEU allu dangos profiad cyfwerth o ymchwil/arloesi a/neu hyfforddiant. Nid oes rheolau cymhwysedd sy'n seiliedig ar flynyddoedd ers ennill PhD, neu a yw'r ymgeisydd yn meddu ar swydd neu rôl academaidd barhaol/benagored ar hyn o bryd. Serch hynny, dylai ymgeiswyr sydd â swydd barhaol:
- Ddangos nad yw eu swydd bresennol yn dangos eu bod wedi cyflawni annibyniaeth mewn ymchwil/arloesi ac arweinyddiaeth feddwl
- Rhoi rhesymeg eglur pam byddai Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yn wahanol i'w rôl bresennol.
- Datgan yn eglur y byddai eu holl amser gwaith sydd wedi’i gynnwys yng nghyllideb y Gymrodoriaeth yn cael ei glustnodi ar gyfer y Gymrodoriaeth honno er mwyn canolbwyntio ar ymchwil/arloesi, a'i warchod rhag ymrwymiadau proffesiynol eraill.
- Dangos mai Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol fyddai'r ffordd orau o ategu eu nodau gyrfa hirdymor a'r llwybr gyrfa o'u dewis. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys am gymrodoriaeth os byddant eisoes wedi cyflawni annibyniaeth ymchwil/arloesi (er enghraifft, drwy sicrhau cyllid ar gyfer y cam gyrfa hwn). Ni chaniateir ceisiadau gan uwch-academyddion ac arloeswyr.
Pam dewis Prifysgol Abertawe?
Yn asesiad diweddaraf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn ymchwil sy'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol - i fyny o 80% yn yr ymarfer REF blaenorol yn 2014.
Rydyn ni'n parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ledled y byd. Mae 86% o'n hymchwil, a ddyfarnwyd gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.
Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn ardderchog yn rhyngwladol (sef cynnydd o 6% ers ymarfer REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu bod Prifysgol Abertawe'n amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil fel myfyriwr neu academydd, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ar draws y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n gwella amrywiaeth ac yn galluogi holl gymuned y Brifysgol i gyflawni ei photensial. Adlewyrchir hyn wrth i'r Brifysgol dderbyn nifer o siarteri sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, gan gynnwys dyfarniad Arian Athena SWAN ar lefel y Brifysgol (rhywedd) a safle ymysg y 50 brifysgol orau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Felly, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd, beth bynnag ei hil, ei ryw, ei rywioldeb neu ei allu, yn cael cymorth llawn drwy gydol y broses ymgeisio.
Ac fel y’i nodir uchod, bydd Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol sylweddol i ymgeiswyr llwyddiannus.
Sut i gyflwyno cais:
Bellach, croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sydd am gael eu cefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hyn yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Dylai unigolion gysylltu â'r fellowships@abertawe.ac.uk i ddechrau er mwyn sicrhau bod eu hymchwil yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi ac uchelgeisiau ymchwil y Gyfadran- Archwilio ein hymchwil yma. Defnyddir proses ddethol dryloyw a chynhwysol i sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n dewis yr ymgeiswyr gorau i'w cefnogi hyd at y cam cais llawn. Bydd hyn yn cynnwys panel adolygu mewnol yn craffu ar fynegiant o ddiddordeb drafft, CV ac allbynnau pob ymgeisydd.
Cais
E-bostiwch bob mynegiant o ddiddordeb i fellowships@abertawe.ac.uk
Bydd Prifysgol Abertawe yn cefnogi tri chais i'w cyflwyno'n llawn a bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn derbyn cymorth pwrpasol i baratoi eu cynnig llawn. Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth wedi'i chymeradwyo gan y Gyfadran letyol.
AMSERLEN AR GYFER MYNEGIANNAU O DDIDDORDEB (ROWND 9)
- Dyddiad Cau i Ymgeiswyr Fynegi Diddordeb :29 Ionawr 2024 10am
- Dyddiad cau UKRI ar gyfer cyflwyno ceisiadau llawn: I'w gadarnhau, disgwylir Mai/ Mehefin 2024
Amlinellir yr amserlen ddrafft fanwl isod; gall hyn newid.
Gweithgaredd |
Dyddiad
| Cyfrifol |
Galwad ar agor i ymgeiswyr, ffurflen Mynegi Diddordeb Prifysgol Abertawe ar gael |
Yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Rhagfyr 2023 |
Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi |
Gweminar gwybodaeth gychwynnol trwy Zoom |
18 Ionawr 2024, 13:00
|
Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi |
Cymorth i ymgeiswyr |
Yn cael ei drefnu yn ôl y galw |
Gall ymgeiswyr ofyn am gymorth drwy REIS a Swyddogion Datblygu Ymchwil |
Dyddiad Cau i Ymgeiswyr Fynegi Diddordeb |
Dydd Llun 29 Ionawr 2024 10:00 |
Ymgeisydd |
TFS yn agor ar gyfer cynigion llawn
|
I'w gadarnhau, disgwylir Chwefror 2024 |
UKRI |
Y Gyfadran yn adolygu Mynegiannau o Ddiddordeb ac yn cyflwyno ymgeiswyr enwebedig i Banel Adolygu FLF Prifysgol Abertawe – uchafswm o 3 ymgeisydd fesul Cyfadran
|
30 Ionawr 2024 |
Deoniaid Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi Cyfadrannau |
Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o ganlyniad y cam mynegiant o ddiddordeb ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno i'r panel (hyd at 9)
|
2 Chwefror 2024 |
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi |
Cyflwyno gerbron y panel (Panel Adolygu FLF Prifysgol Abertawe) |
Dydd Iau 8 Chwefror 2024
|
Ymgeiswyr Mynegiant o Ddiddordeb a gefnogir
|
Rhoir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad cam y Panel (Uchafswm o 3)
|
12 Chwefror 2024 |
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi |
3 ymgeisydd yn symud ymlaen i'r Cais Llawn |
|
Ymgeisydd gyda chymorth y Swyddog Datblygu Ymchwil, yr Ysgrifennwr Cynigion a'r tîm ehangach |
Adolygu'r cynnig gan gymheiriaid a gwella ei ansawdd, cadarnhau cefnogaeth y sefydliad lle cynhelir y prosiect ar gyfer y 3 ymgeisydd a gefnogir |
|
Canolfannau Ymchwil ac Arloesi a’r Gyfadran lle cynhelir y prosiect |
Adolygiad technegol ac ariannol Prifysgol Abertawe |
I’w gadarnhau |
Swyddog Datblygu Ymchwil |
Cymeradwyaeth Prifysgol Abertawe i gyflwyno cais (dyddiad cau mewnol)
|
I’w gadarnhau |
Swyddog Datblygu Ymchwil |
Cyflwyno'r ddogfen i UKRI erbyn y dyddiad cau |
I'w gadarnhau, disgwylir Mai/ Mehefin 2024 |
Ymgeisydd/Ymgeiswyr a gefnogir |
Asesu'r cais, llunio rhestr fer yn unol â Phroses UKRI |
I’w gadarnhau |
UKRI |
Cyfweliadau |
I’w gadarnhau |
Ymgeiswyr ar y rhestr fer |
Rhoir gwybod i ymgeiswyr am y canlyniad |
I’w gadarnhau |
UKRI |
Y dyddiad cau i dderbyn cynnig |
I’w gadarnhau |
Ymgeiswyr Llwyddiannus |
Dechrau'r prosiect |
Rhwng dau a chwe mis ar ôl dyddiad y cyfarfodydd cyfweld |
Ymgeiswyr Llwyddiannus |