Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i gefnogi dawn ragorol sy'n datblygu mewn gwahanol feysydd ymchwil cyffrous. Dyddiad cau Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) fydd 13 Medi 2023. Mae'n cynnig cymorth hirdymor a hyblyg, gan gynnwys cyflog y cymrawd a chostau ymchwil, staff a hyfforddiant, yn ogystal â'r cyfle i gael swydd academaidd barhaol ar ôl cwblhau'r gymrodoriaeth yn llwyddiannus. Oherwydd natur hynod gystadleuol y cymrodoriaethau hyn a therfyn ar nifer y ceisiadau llawn y caiff pob sefydliad eu cyflwyno, mae'r Brifysgol yn cynnal galwad am Fynegiannau o Ddiddordeb gan staff mewnol ac allanol.
Dyddiad cau Mynegi Diddordeb yw Mehefin 26 2023.
AM GYMDORAETH MARIE SKŁODOWSKA-CURIE ACTION
Mae Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol MSCA yn grantiau unigol 'o'r gwaelod i fyny' i ymchwilwyr i ategu symudedd, ymchwil ragorol a hyfforddiant. Mae'r cymrodoriaethau hyn yn rhoi cyfle datblygu gyrfa ardderchog i ymchwilwyr ôl-ddoethurol wella eu potensial arloesi a hwyluso gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth.
Cymhwysedd:
Gall ymchwilwyr fod o unrhyw genedligrwydd a rhaid iddynt fod yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ac yn meddu ar uchafswm o 8 mlynedd o brofiad cyfwerth ag amser llawn ar ddyddiad cau'r alwad. Mae symudedd yn nodwedd allweddol o gymrodoriaethau MSCA:
Ni ddylai’r ymchwilydd fod wedi preswylio neu ymgymryd â’i brif weithgarwch (gweithio, astudio etc.) yng ngwlad y buddiolwr am fwy na 12 mis yn y 36 mis yn union cyn dyddiad cau’r alwad. Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr Amodau Derbynioldeb a Chymhwystra.
Bwriad y DU yw cysylltu â Horizon Ewrop ac mae'r DU yn gymwys fel sefydliad cynnal ar gyfer cymrodoriaethau Ewropeaidd; ac yn gymwys i gynnal y cam dychwelyd ar gyfer Cymrodoriaethau Byd-eang.
Yn asesiad diweddaraf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn ymchwil sy'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol - i fyny o 80% yn yr ymarfer REF blaenorol yn 2014. Gellir dod o hyd i uchafbwyntiau ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yma.
Rydyn ni'n parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ledled y byd. Mae 86% o'n hymchwil, a ddyfarnwyd gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.
Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn ardderchog yn rhyngwladol (sef cynnydd o 6% ers ymarfer REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu bod Prifysgol Abertawe'n amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil fel myfyriwr neu academydd, a bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ar draws y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n gwella amrywiaeth ac yn galluogi holl gymuned y Brifysgol i gyflawni ei photensial. Adlewyrchir hyn wrth i'r Brifysgol dderbyn nifer o siarteri sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, gan gynnwys dyfarniad Arian Athena SWAN ar lefel y Brifysgol (rhywedd) a safle ymysg y 50 brifysgol orau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Felly, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd, beth bynnag ei hil, ei ryw, ei rywioldeb neu ei allu, yn cael cymorth llawn drwy gydol y broses ymgeisio.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae iechyd a llesiant ein cymuned yn bwysig i ni, mae Prifysgol Abertawe’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu lle nad oes gwahaniaethu ac sy’n galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu’r amrywiaeth y mae ein staff a’n myfyrwyr yn ei chyflwyno i’r Brifysgol gan ein hannog ni i feddwl yn wahanol ac i weithredu’n wahanol. I gael rhagor o wybodaeth am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Abertawe, cliciwch yma. Mae nifer o grwpiau a rhaglenni rhwydweithio wedi’u sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe.
Sut i gyflwyno cais:
Bellach, croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sydd am gael eu cefnogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hyn yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol.
I gael arweiniad ar ysgrifennu eich cais, gweler y Canllaw i Ymgeiswyr ac Atodiadau Cyffredinol Horizon Europe (tudalen 23). Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg (Safon 76).
Rydym yn annog cynigion yn rhagweithiol mewn cydweithrediad â'n Partneriaethau Strategol, am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i: Cydweithrediadau byd-eang a phartneriaethau strategol - Prifysgol Abertawe.
Cais
E-bostiwch bob mynegiant o ddiddordeb i fellowships@abertawe.ac.uk
Bydd Prifysgol Abertawe yn cefnogi tri chais i'w cyflwyno'n llawn a bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn derbyn cymorth pwrpasol i baratoi eu cynnig llawn. Rhaid i ymgeiswyr fod â chefnogaeth wedi'i chymeradwyo gan y Gyfadran letyol.