Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod y cyfraniad hanfodol mae staff ymchwil yn ei wneud i'n hymchwil sy'n rhyngwladol flaenllaw o'r radd flaenaf. Mae llwyddiant ein staff ymchwil yn ategu ein huchelgais a fydd yn hyrwyddo ansawdd ymchwil, yn creu amgylchedd addas lle gall ymchwil ffynnu ac yn sicrhau bod ein hymchwil yn cael yr effaith fwyaf posib. At y diben hwn, rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd a diwylliant sy'n wirioneddol gefnogol, lle gall ymchwilwyr ffynnu yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Mae Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn arbennig o bwysig o ran cynnal ymchwil o safon ac mae’r brifysgol wedi ymrwymo i werthfawrogi a hyrwyddo datblygiad gyrfa ar gyfer y grŵp amrywiol hwn o staff.
Mae Prifysgol Abertawe yn ddeiliad Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Ymchwil Adnoddau Dynol y Comisiwn Ewropeaidd sy'n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil.
Dyfarnwyd hwn i'r Brifysgol am y tro cyntaf yn 2010, a’i adnewyddu ym mis Ionawr 2013, mis Ionawr 2015, mis Ionawr 2017, mis Mehefin 2019. mis Ionawr 2021 a mis Ebrill 2023. Mae'n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil, gan gynnwys y ffaith i ni roi'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil ar waith. Mae ein holl adroddiadau a chynlluniau ar gael i'w darllen ar-lein.
Gweld Cyflwyniadau Concordat a DyfarniadauCadeirydd RISWG yw Ian Mabbett (Athro a Dirprwy Is-ganghellor Diwylliant Ymchwil) ac mae'n cynnwys staff ymchwil o bob Cyfadran (a enwebwyd gan Benaethiaid Cyfadrannau/Cyfarwyddwyr Ymchwil), ac aelodau o Adnoddau Dynol, Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), y Gwasanaethau Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi (REIS), y Gwasanaethau Digidol ac UCU (yr undeb llafur).
Mae'n adrodd i'r Pwyllgor Arloesedd Ymchwil, Effaith (RIIC) ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu'r Concordat, i gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr.
Bydd mewnbwn gan ein cydweithwyr staff ymchwil yn bwysig ac yn werthfawr iawn ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad parhaus ein staff o ran rhannu eu barn a'u profiadau.
Mae'r Arolwg Diwylliant, Cyflogaeth a Datblygiad mewn Ymchwil Academaidd (CEDARS) yn casglu barn a phrofiadau ymchwilwyr ar draws y DU yng nghyd-destun y Concordat diwygiedig i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr a'r nod yw creu'r diwylliant gorau er mwyn i ymchwilwyr ffynnu.
Am ragor o wybodaeth am arolwg CEDARS, ewch i wefan Vitae.