Beth yw eich maes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn cwmpasu meysydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, addysg ac iechyd y cyhoedd, gyda ffocws cryf ar gymwysiadau ymarferol i wella gweithgarwch corfforol a lles. Roedd fy ymchwil gynnar yn eang ei chwmpas. Dechreuais gyda phrosiect dadansoddi perfformiad gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod fy astudiaethau israddedig, ac yn ddiweddarach symudais ymlaen i wneud traethawd hir gradd Meistr ar ymyrraeth darllen ac ysgrifennu yn seiliedig ar weithgarwch corfforol i blant. Canolbwyntiodd fy PhD, astudiaeth dulliau cymysg, ar ffitrwydd, cymhwysedd echddygol, a phatrymau gweithgarwch corfforol plant cyn, yn ystod, ac yn dilyn adferiad o bandemig Covid-19.

Ar hyn o bryd, fel ymchwilydd yn  Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) , rwy'n cydweithio'n agos â rhanddeiliaid i fynd i'r afael â chwestiynau allweddol ynghylch iechyd a lles. Mae'r dull cydweithredol hwn yn caniatáu i mi gyd-gynhyrchu ymchwil sy'n dod â budd uniongyrchol i gymunedau ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Er enghraifft, rwy'n gweithio gyda bwrdd iechyd lleol i asesu cymhwysedd a hyder gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth baratoi canllawiau gweithgarwch corfforol i gleifion pediatrig a'u teuluoedd. Mae prosiect parhaus arall yn gwerthuso rhaglen arweinyddiaeth ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr i asesu ei heffaith ar gyfranogwyr ifanc. Drwy’r prosiectau hyn, nod fy ngwaith yw cael effaith wirioneddol ar iechyd a lles pobl ledled Cymru.

Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Rydw i wedi bod yn berson egnïol erioed, gan gymryd rhan mewn chwaraeon fel cyfranogwr, hyfforddwr, a swyddog pryd bynnag y bo modd. Yn naturiol, fe wnaeth y cyfranogiad gydol oes hwn sbarduno fy niddordeb mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Ochr yn ochr â'm hangerdd dros chwaraeon, mae gen i ymrwymiad cryf i weithio gyda phlant. Ar ôl gweithio mewn ysgolion yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol yr anghydraddoldebau iechyd sylweddol a'r diffyg cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu. Fe wnaeth y profiadau hyn danio fy awydd i ymchwilio'n ddyfnach i ymchwil a allai helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn a chreu newid parhaol a chadarnhaol mewn cymunedau. Fy nod yw cyfrannu ymchwil sydd nid yn unig yn tynnu sylw at y materion hyn ond sydd hefyd yn cynnig atebion  ymarferol i wella mynediad at weithgarwch corfforol ac iechyd i bawb.

Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Ar ôl cwblhau gradd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yn 2014, cefais fy swyno gan y brifysgol a'r ddinas. Er i mi ddychwelyd i Ganolbarth Lloegr am ychydig flynyddoedd, cefais fy nenu'n ôl i Abertawe yn 2018 i ddilyn a chwblhau PhD. Yn ystod fy astudiaethau doethuriaeth, cefais y fraint o gydweithio ag aelodau Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS), a gryfhaodd fy nghysylltiad â Phrifysgol Abertawe a chenhadaeth WIPAHS. Pan ddaeth swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil gyda Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru ar gael, roedd gwneud cais yn teimlo fel y cam naturiol nesaf. Rwyf wedi bod yn y rôl hon ers tair blynedd bellach ac yn mwynhau fy ngwaith ym Mhrifysgol Abertawe drwy Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru yn fawr.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni? 
Yn ystod Wythnos Gwerthfawrogi Ôl-ddoethurol, creais fideo yn arddangos prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru. Nod y fenter hon, a arweiniais mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol sy'n Gwella Iechyd (HEPA) Ewrop trwy Gymrodoriaeth Ymchwilydd Gyrfa Gynnar (ECR), yw gwasanaethu fel model ar gyfer sefydliadau cenedlaethol tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd canlyniadau'r prosiect hwn yn creu glasbrint i wledydd eraill sefydlu sefydliadau cymharol, gan symleiddio a gwella ymdrechion ymchwil mewn gweithgarwch corfforol, iechyd a chwaraeon er mwyn cyflawni effaith genedlaethol fwy.

Pa fath o ddefnydd ymarferol gall eich ymchwil ei gyflawni?
Fy nod yw i'r holl ymchwil rwy'n ei chynnal gael cymhwysiad ymarferol neu bolisi, rhywbeth sy'n allweddol i weledigaeth sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru ; peidio â chynnal ymchwil heb bwrpas. Mae rhai cymwysiadau ymarferol yn cynnwys cynhyrchu sefydliadau cenedlaethol eraill ar gyfer gweithgarwch corfforol, iechyd a chwaraeon ledled y byd, gwelliannau i raglenni gweithgarwch corfforol a gostyngiadau mewn anghydraddoldebau iechyd.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Rwyf am barhau i ddatblygu cwestiynau ymchwil newydd gyda rhanddeiliaid a sicrhau bod y rhain yn cael eu hateb mewn modd trylwyr sy'n arwain at gymwysiadau ymarferol neu bolisi.

Hanes gyrfa

Ar hyn o bryd rwy'n ymchwilydd ymroddedig sy'n arbenigo mewn gweithgarwch corfforol, ffitrwydd a chymhwysedd echddygol plant. Dechreuodd fy nhaith academaidd gyda gradd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Abertawe, ac yna gradd MSc mewn Gweithgarwch Corfforol, Ymarfer Corff ac Arferion Iechyd o Brifysgol Swydd Gaerloyw, a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch o Brifysgol Newman; ynghyd â dod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Yn fwyaf diweddar, cwblheais radd PhD mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, lle canolbwyntiais ar ffitrwydd, gweithgarwch corfforol a sgiliau echddygol plant yng nghyd-destun pandemig Covid-19.

Mae fy mhrofiad proffesiynol yn amrywiol, gan gwmpasu rolau mewn lleoliadau cymhwysol ac academaidd. Rwyf wedi gweithio fel Mentor Iechyd, Rheolwr Rhanbarthol, a Rheolwr Effaith Genedlaethol i Evolve, menter gymdeithasol sy'n ceisio gwella iechyd a lles plant. Yn y rolau hyn, goruchwyliais Fentoriaid Iechyd ar draws Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Cymru, gweithredais raglenni hyfforddi o ansawdd uchel, rheolais ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac arweiniais adroddiad ar effaith i fesur effaith genedlaethol y sefydliad. Yn ogystal â'm gwaith gydag Evolve, rydw i wedi dal rolau fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gyda TSR Cricket, lle datblygais raglenni unigol ar gyfer athletwyr ifanc, ac fel Prif Hyfforddwr Gôl-geidwaid ar gyfer rhaglen Gorllewin Canolbarth Lloegr Hoci Lloegr. Roedd fy mhrofiad cynharach gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel Dadansoddwr Perfformiad Intern wedi rhoi cipolwg ymarferol i mi ar berfformiad chwaraeon elît, gan danio fy angerdd dros wyddorau chwaraeon ac ymarfer corff ymhellach.