Beth yw eich maes ymchwil?
Fy maes ymchwil yw iechyd a gofal cymdeithasol plant. Teitl fy mhrosiect Cymrodoriaeth presennol yw "PREDicting risk of entry and re-entry Into CAre and risk of placeMENT instability from early life experiences amongst children in Wales: An ecological, multi-domain approach (PREDICAMENT)”.
Sut datblygodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Roedd fy swydd go iawn gyntaf fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn cynnwys gweithio ar adolygiadau systematig o ffurfiau gwahanol o gamdriniaeth ac esgeulustod plant. Roedd y pwnc yn anodd iawn ond yn hynod bwysig. Dechreuais fod yn angerddol iawn am ymchwil yn ymwneud ag amddiffyn plant a phrosiectau a all wella bywydau plant sy'n agored i niwed, ac fe gwblheais PhD ar adnabod trawma camdriniol i'r pen (syndrom babi sydd wedi cael ei ysgwyd). Roedd yr ymchwil hon yn ddiddorol iawn ac roedd yn cyfuno damcaniaethau gwneud penderfyniadau seicolegol, ystadegau Bayesaidd, delweddu data, ac elfennau clinigol a chyfreithiol ynghlwm â chamdrin plant. Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau parhau i ddatblygu fy ngyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol plant, a derbyniais swydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel uwch-ymchwilydd ym maes iechyd plant yn fuan ar ôl cwblhau fy PhD.
Sut daethoch chi i weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Roeddwn i'n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac newydd orffen fy mhrosiect cysylltedd data cyntaf, yn archwilio effaith pandemig Covid-19 ar iechyd meddwl plant. Mwynheais weithio gyda data cysylltiedig yn fawr, felly pan welais swydd yn Abertawe a oedd yn cyfuno methodolegau cysylltedd data ag ymchwil cyfiawnder teuluol a gofal cymdeithasol, penderfynais fynd amdani, ac roeddwn i'n ffodus iawn bod fy nghais yn llwyddiannus! Yna cyflwynais gais ar gyfer fy mhrosiect Cymrodoriaeth presennol, gan sicrhau cyllid am dair blynedd ychwanegol.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Yn fwy na dim, rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil bresennol yn troi'n atebion ymarferol ar gyfer y byd go iawn er mwyn lleihau mewn ffordd ddiogel nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system ofal yng Nghymru, a gwella profiadau'r plant sydd eisoes mewn gofal. Gobeithiaf fedru dylanwadu ar bolisi ac arfer gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru fel bod fy ymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar blant a theuluoedd yng Nghymru.
Pa fath o ddefnydd ymarferol gall eich ymchwil ei gyflawni?
Nod fy mhrosiect Cymrodoriaeth yw defnyddio data gweinyddol i greu offer rhagfynegol diriaethol er mwyn cynorthwyo ymarferwyr gofal cymdeithasol wrth adnabod pa blant yng Nghymru y mae angen ymyrraeth a chymorth cynnar arnynt. Bydd hyn yn eu galluogi i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau cymorth cynnar a dargedir ar gyfer plant a theuluoedd, gan leihau'r angen am ymyrraeth statudol.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Eleni, byddaf yn gweithio ar o leiaf ddau brosiect ymchwil newydd a chyffrous. Yr un cyntaf yw prosiect cysylltedd data er mwyn deall trefniadau’r rhai sy’n rhoi gofal ar gyfer plant pan fo'r mamau yn ymwneud â’r systemau troseddol a chyfiawnder teuluol. Yr ail brosiect yw prosiect Horizon ar draws nifer o wledydd Ewropeaidd, gan archwilio canlyniadau hydredol ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin. Rydw i’n dal i fod yng nghamau cynnar fy Nghymrodoriaeth ar hyn o bryd, ond bydd angen i mi ddechrau ystyried ysgrifennu fy nghais nesaf am grant ymchwil cyn hir! Byddwn i wrth fy modd yn sicrhau cyllid er mwyn datblygu a gwerthuso'r offer rhagfynegi y byddaf yn eu creu ymhellach.
Hanes gyrfa
Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
Chwefror 2022 - Presennol
Uwch-swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tachwedd 2020 - Ionawr 2022
Uwch-gynorthwy-ydd Ymchwil, Prifysgol De Cymru
Gorffennaf 2020 - Hydref 2020
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol, Prifysgol Caerdydd
Ionawr 2019 - Mehefin 2020
Myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd
Hydref 2014 - Rhagfyr 2018
Cynorthwy-ydd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
2011 - Hydref 2014