Mae timau ymchwil o'r Sefydliad Cenedlaethol Bioleg (NIB), Slofenia, a Phrifysgol Abertawe, y Deyrnas Unedig, wedi cydweithio'n anffurfiol er mwyn gweithredu ymchwil a mynd y tu hwnt i'r radd flaenaf. Roedd yr alwad i efeillio yn ffenestr cyfle, a bellach mae'r gwaith gefeillio ar gyfer rhagoriaeth er mwyn hyrwyddo ymchwil yn strategol yn y prosiect carsinogenau a chanser (CutCancer) yn gyfle i ffurfioli hynny. Mae cyfleoedd i gydweithio'n ffurfiol rhwng timau ymchwil yn brin, felly mae pwysigrwydd y cydweithio hwn yn hanfodol bwysig ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Rydym yn rhagweld cyfnewid cydweithredwyr a myfyrwyr, a hefyd gyfnewid gwybodaeth a chyflymu effaith cydweithio rhwng timau. Bydd cydweithio fel rhan o'r prosiect CutCancer yn galluogi'r gwaith o weithredu ymagweddau a dulliau arloesol ym maes ymchwil canser 3D. Cyflawnir hyn drwy drosglwyddo gwybodaeth, cyfnewid arferion da a chyfleoedd hyfforddiant i wyddonwyr. Yn ogystal, bydd y cydweithio'n atgyfnerthu'r galluoedd rheoli ymchwil a'r galluoedd gweinyddol, gan gynnwys y Swyddfa Trosglwyddo Technoleg, y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, y Llyfrgell a'r Swyddfa Adnoddau Dynol. Yn gyffredinol, bydd y cydweithio'n gwella'n sylweddol ragoriaeth NIB ar y lefel ranbarthol ac yn rhyngwladol. Er hynny, bydd y prosiect yn hyrwyddo rhagoriaeth yn y ddau sefydliad.
Yr Athro Cysylltiol Dr Bojana Žegur, Sefydliad Cenedlaethol Bioleg