Yr Her
Bob blwyddyn, ceir adroddiadau yn y newyddion ynghylch y pwysau y mae ein systemau gofal iechyd yn eu hwynebu - yn y DU ac yn fyd-eang. Mae pwysau’n deillio o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio a chyflyrau cronig sy’n dod yn fwy cyffredin. Mae derbyn pobl i’r ysbyty yn gallu arwain at aros yn yr ysbyty am gyfnod hir, dod yn fwy bregus a cholli annibyniaeth, a risg o gael eich heintio yn yr ysbyty.
Y cwestiwn y mae Meddygon Teulu yn ei wynebu yw: Pryd yw’r amser gorau i anfon cleifion i’r ysbyty? Sut gallwn osgoi ychwanegu rhagor o bwysau a chymhlethdodau iechyd y gellir eu hosgoi at system sydd eisoes dan straen?
Mae llawer o feddygfeydd Meddygon Teulu ledled y DU wedi rhoi meddalwedd ar waith sy’n nodi cleifion sydd â risg uchel o gael eu derbyn ar frys i’r ysbyty, drwy amcangyfrif “sgôr risg” ar gyfer pob claf unigol, ar sail cael eu derbyn i’r ysbyty o’r blaen, cyflyrau isorweddol a meddyginiaeth. Mae’r ymyrraeth hon – sef haenu risg ragfynegol – yn galluogi Meddygon Teulu i nodi pobl a allai elwa ar ymyrraeth gynnar er mwyn eu hatal rhag cael eu derbyn i’r ysbyty heb ei gynllunio (ar frys).
Ar adeg yr oedd Llywodraeth Cymru i fod i roi meddalwedd haenu risg ragfynegol ar waith (PRISM) ledled pob meddygfa Meddyg Teulu yng Nghymru, enillodd yr Athro Snooks a’i thîm gyllid i gynnal prawf i werthuso gweithrediad y feddalwedd. Nod y prawf oedd canfod effaith yr ymyrraeth hon ar ofal cleifion, costau a deilliannau iechyd.
Y Dull
Drwy ddefnyddio Data Iechyd Dienw Diogel (Banc Data SAIL), cynhaliodd yr Athro Snooks a’i thîm brawf clinigol ledled 32 o feddygfeydd Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, un o’r profion mwyaf i gael ei gynnal erioed yn y DU, gan gynnwys 230,000 o bobl wedi’u cofrestru â Meddyg Teulu a oedd yn cymryd rhan yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Cyflawnwyd hyn drwy ddosrannu ar hap glystyrau o feddygfeydd Meddygon Teulu i wythnos y flwyddyn pan fyddent wedi derbyn y feddalwedd; Prawf “Stepped Wedge” yw hwn. Cafodd y data iechyd dienw, a’r deilliannau ansawdd bywyd hunangofnodedig ar gyfer yr unigolion wedi’u cofrestru â meddygfeydd Meddygon Teulu gwahanol ledled y bwrdd iechyd, eu monitro am y flwyddyn ddilynol er mwyn gweld yr effeithiau y byddai’r ymyrraeth yn eu cael ar dderbyn i’r ysbyty, defnyddio gwasanaethau eraill, deilliannau iechyd a chostau.
Y Canlyniadau
Yn sgîl rhoi PRISM ar waith, bu cynnydd yn y defnydd o wasanaethau iechyd: cododd cyfraddau derbyn i’r ysbyty ar frys 1%; cyfraddau presenoldeb mewn adran frys 3%, cyfraddau ymweliadau gan gleifion allanol 5%, cyfran y diwrnodau â chofnod o weithgarwch gan Feddyg Teulu 1% a’r amser yn yr ysbyty 3%. Cododd costau’r GIG fesul cyfranogwr £76 y flwyddyn.
Yr Effaith
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gymryd saib ac wedyn stopio rhoi’r feddalwedd ar waith mewn meddygfeydd Meddygon Teulu yng Nghymru oherwydd comisiynu’r prawf PRISMATIC ac yna ei ganlyniadau. Ar hyn o bryd, dim ond 14% o feddygfeydd Meddygon Teulu yng Nghymru sy’n dweud bod cyfarpar haenu risg ragfynegol ar gael iddynt, o gymharu â 80% dros weddill y DU. Ar sail canlyniadau’r prawf, mae peidio â rhoi meddalwedd rhagfynegi risg ar waith yng Nghymru wedi osgoi tua 30,000 o dderbyniadau brys ychwanegol i ysbytai a 76,000 o ddiwrnodau ychwanegol yn yr ysbyty bob blwyddyn. Mae osgoi’r derbyniadau a chysylltiadau eraill wedi arbed tua £200 miliwn y flwyddyn yng Nghymru
Negeseuon Allweddol
Nid yw ymyraethau iechyd bob amser yn cael effaith yn unol â’r bwriad. Mae’n bwysig cynnal gwerthusiad cadarn o dechnolegau a thriniaethau newydd mewn profion pragmatig er mwyn deall effeithiau ymarferol. Gwnaeth gweithio’n agos gyda gwneuthurwyr polisi yng Nghymru alluogi tîm prawf PRISMATIC i sicrhau bod canfyddiadau wedi cael effaith yn y byd go-iawn ar unwaith ac yn yr achos hwn, mae polisi iechyd ym maes gofal sylfaenol yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf safonol.