Yr Her
Mae ymchwil yr Athro Bewley-Taylor yn canolbwyntio ar ailraddnodi'r ffordd y mae llywodraethau, asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol yn mesur effeithiolrwydd polisïau rheoli cyffuriau a throseddu cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei waith wedi newid y dull a fabwysiadwyd gan lywodraethau’r DU, y Swistir a Norwy, yn ogystal â Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, ac, ymhlith sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol dylanwadol eraill, y Comisiwn Byd-eang ar Bolisi Cyffuriau.
Mae ei ymchwil wedi symud y sylw oddi wrth ddangosyddion gorfodi’r gyfraith traddodiadol tuag at fetrigau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenorol mewn parthau croestoriadol eraill, gan gynnwys hawliau dynol, iechyd y cyhoedd, a datblygiad. Mae gwaith Bewley-Taylor wedi helpu i lunio a hyrwyddo disgwrs polisïau newydd, ac wedi dylanwadu ar fentrau polisi, gan gynnwys strategaethau, datganiadau a safbwyntiau negodi llywodraethau yn fforymau’r Cenhedloedd Unedig.
Y Dull
Mae'r ymchwil wedi cael ei chynnal dan nawdd yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPO) ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda chefnogaeth amrywiaeth o gyllidwyr, a'r Sefydliadau Cymdeithas Agored yn bennaf, sefydlwyd yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang gan Bewley-Taylor i fod yn fenter sy'n canolbwyntio ar effaith i greu ymchwil berthnasol ar bolisi cyffuriau. Oddi ar 2016, mae wedi bod yn gartref i ffrwd waith benodol ar fetrigau effeithiolrwydd polisïau cyffuriau a throseddu.
Mae'r GDPO yn ceisio hyrwyddo polisïau cyffuriau seiliedig ar dystiolaeth a hawliau dynol trwy waith adrodd, monitro a dadansoddi cynhwysfawr a thrylwyr mewn perthynas â datblygiadau polisi ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.
Mae’n gweithredu ar ffurf llwyfan sy’n estyn allan ac yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang ac amrywiol, gan gynnwys y cyfryngau a llunwyr barn elitaidd, yn ogystal â’r rhai mewn cymunedau gorfodi’r gyfraith a llunio polisïau.
Mae'r Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang yn gweithio ar y canlynol:
- heriau pwnc-benodol sy'n deillio o astudio polisïau cyffuriau, hawliau dynol, a lleihau niwed;
- materion methodolegol sy'n ymwneud â chreu mynegai polisïau cyffuriau byd-eang cymhleth sy'n defnyddio dulliau cymysg i gipio ffenomenau amlddimensiynol;
- a gwersi ymarferol a gwleidyddol ar y modd i wneud mynegai o'r fath yn un dylanwadol, tryloyw ac argyhoeddiadol yn wleidyddol.
Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith o ymchwilwyr ledled Gorllewin Affrica i ddyfnhau'r ddealltwriaeth o'r achosion sylfaenol ac effaith polisi, fel ei gilydd.
Yr Effaith
Er bod mesur effeithiolrwydd polisïau rheoli cyffuriau a throseddu wedi bod yn faes sy’n peri pryder cynyddol ers peth amser, dim ond yn ddiweddar y mae'r mater o fetrigau polisi wedi ‘torri’r wyneb’ a dod yn bwynt sylw mawr i’r gymuned rheoli cyffuriau a throseddu, a hynny ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn wedi digwydd mewn amgylchedd lle mae nifer cynyddol o weithredwyr polisi yn cydnabod bod yna gysylltiadau pwysig rhwng y gyfundrefn ryngwladol ar reoli cyffuriau a chyfundrefnau eraill (e.e. hawliau dynol) a mentrau system gyfan y Cenhedloedd Unedig, megis yr Agenda Datblygu Cynaliadwy.
Trwy gyfuniad o gyhoeddiadau academaidd a llenyddiaeth lwyd, cyflwyniadau lefel uchel yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Genefa, a Fienna a melinau trafod yn y DU ac UDA, yn ogystal â sesiynau briffio wyneb yn wyneb ag ystod o ddefnyddwyr, mae ymchwil sy'n canolbwyntio ar fetrigau mae'r Athro Bewley-Taylor wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r broses ddeublyg hon, a hynny o ran ei harwyddocâd a'i chyrhaeddiad.