Y Her
Mewn rhyfeloedd a gwrthdrawiadau sifil, mae ‘eiddo diwylliannol’ (adeiladau hanesyddol a safleoedd archeolegol, adeiladau crefyddol, amgueddfeydd, orielau celf, llyfrgelloedd ac archifau a chynnwys yr adeiladau hynny) yn aml yn cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi, yn fwriadol neu’n anfwriadol, yn ystod ymladd a meddiannaeth, ac ysbeilio pan fydd lluoedd diogelwch yn colli gafael ar y sefyllfa.
Mae safleoedd diwylliannol yn aml yn atgyfnerthu hunaniaethau cymunedol a chenedlaethol, ac mae pwysigrwydd cronnol treftadaeth ddiwylliannol yn helpu i greu hanes a hunaniaeth fyd-eang. Mae dinistrio eiddo diwylliannol yn effeithio ar bobl, unigolion a chymunedau, y rhai sy’n byw’n agos ac ym mhen draw’r byd. Yn ei hanfod, mae’n effeithio ar yr hyn sydd yn ein gwneud yn ddynol.
Y Dull
Mae'r Athro Nigel Pollard yn arwain ymchwil sy’n cyfrannu at ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol mewn ardaloedd gwrthdaro ledled y byd. Mae ei ymchwil ddiweddaraf wedi canolbwyntio ar ddifrod a diogelu treftadaeth ddiwylliannol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gan weithio gyda dogfennau archifol, mapiau a ffotograffau o’r cyfnod, mae wedi ymchwilio i weithgareddau’r uned hanesyddol go iawn a ysbrydolodd y ffilm ‘Monuments Men’ a’r difrod a wnaed gan fomiau’r Cynghreiriaid i Pompeii.
Yn ei waith, mae'r Athro Pollard yn cyflwyno astudiaethau achos hanesyddol i gynulleidfaoedd modern er mwyn dangos sut mae treftadaeth ddiwylliannol yn cael ei difrodi a darparu gwersi (am dargedu, gwybodaeth, diogelwch) y gellir eu cymhwyso i ddigwyddiadau cyfoes, er mwyn atal difrod diwylliannol neu ei gadw i leiafswm.
Mae llawer o weithgarwch mae'r Athro Pollard ar faterion cyfoes yn cael ei wneud drwy bwyllgor cenedlaethol y DU Blue Shield, sefydliad rhyngwladol a ymgyrchodd yn llwyddiannus i’r DU gadarnhau Confensiwn 1954 yr Hag ar Eiddo Diwylliannol mewn Gwrthdaro Arfog yn 2017.
Mae'r Athro Pollard wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant ar gyfer Uned Diogelu Eiddo Diwylliannol y Lluoedd Arfog Prydeinig ac mae’n gweithio gyda phersonél eraill y lluoedd arfog yn rheolaidd. Mae hefyd yn cyfrannu at ymgynghoriadau llywodraeth y DU ar ddiogelu eiddo diwylliannol.
Is-brosiectau a ariennir yn allanol
Yr Academi Brydeinig: Protecting and Reconstituting Museums in Times of Conflict. An Historical Case Study from Wartime Naples. (Dyfarnwyd £5102.82 yn 2018 ar gyfer 2018 tan fis Ionawr 2020)
Ymddiriedolaeth Leverhulme: Soldiers as ‘Cultural Tourists’ in Wartime Italy, 1943-45 (Dyfarnwyd £54,199 ym mis Mawrth 2020 ar gyfer mis Chwefror 2021 tan fis Ionawr 2022)