Sipsiwn, Roma a Theithwyr

YR HER

Mae'r ymchwil yn astudiaeth archwiliol o'r defnydd o alcohol a’i niwed ymhlith Roma, Sipsiwn a Theithwyr.

Mae Sipsiwn a Theithwyr ymysg y grwpiau lleiafrif ethnig mwyaf hirsefydlog yn y DU, ond mae eu canlyniadau iechyd ymysg y gwaethaf. Mae casglu data ar gyfer grwpiau lleiafrif ethnig yn wael yn gyffredinol, ac mae’r data’n fwy prin byth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr nad ydynt yn cael eu cynnwys yn setiau data'r GIG ledled y DU. O ganlyniad i'r diffyg gwybodaeth am y defnydd o alcohol a'i niwed yn y grŵp hwn, ‘pryder cudd’ ydyw, ac nid oes gwasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau neu nid ydynt yn hygyrch iddynt. Mae hyd yn oed llai o wybodaeth ar gael am Deithwyr Newydd, megis defnyddwyr cychod sy'n byw'n nomadig ar ddyfrffyrdd (Boaters) ond nad ydynt braidd byth yn cael eu cynnwys mewn ymchwil i iechyd.

Nod ein hymchwil wreiddiol i'r defnydd o alcohol a'i niwed yn y grwpiau lleiafrif ethnig hyn sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol ac sydd heb eu harchwilio'n ddigonol yw ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth bresennol, nodi rhwystrau i gael cymorth ynghylch niwed o ganlyniad i alcohol a chyflwyno atebion ar gyfer y dyfodol.

Y DULL

Mae'r ymchwil hon yn cydweithio ag aelodau'r gymuned ac yn defnyddio ymagwedd ymchwil gyfranogol yn y gymuned. Yma, mae ymchwilwyr cymheiriaid yn gweithio gyda'r tîm ymchwil academaidd i gynnal cyfweliadau â'u cymheiriaid. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pobl yn cyfranogi, ac yn ein galluogi i archwilio normau diwylliannol yfed, yn ogystal â rhwystrau i gymorth a gofal iechyd.

Ar ben y cyfweliadau hyn, recordiodd aelodau'r gymuned ac eiriolwyr straeon digidol sy'n adlewyrchu profiadau aelodau eu cymuned. 

Ariennir yr ymchwil gan Alcohol Change UK (ACUK) drwy grant Gorwelion Newydd ac mae'n un o bedwar prosiect sy'n archwilio'r defnydd o alcohol a'i niwed mewn grwpiau sydd heb eu hastudio'n ddigonol yn y DU.

YR EFFAITH

Datgelodd y prosiect sawl thema bwysig o ran y defnydd o alcohol a'i niwed yn y cymunedau hyn. Nodwyd ffactorau tebyg a gwahanol rhwng y grwpiau hyn o ran oedran, rhyw ac ethnigrwydd sy'n cynnig dealltwriaeth ddefnyddiol i ni er mwyn llunio polisi cymorth a gofal iechyd o ran alcohol yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae llunio straeon digidol yn hwyluso dealltwriaeth o ganfyddiadau ac anghenion y cymunedau hyn a gellir rhannu'r rhain â'r cymunedau eu hunain yn ogystal â'r rhanddeiliaid perthnasol, mewn ffordd ystyrlon a hygyrch. Mae'r straeon digidol ar gael ar wefan ACUK.

I gydnabod anghenion iechyd mawr Teithwyr ethnig a diwylliannol, y prif argymhelliad o ganfyddiadau'r ymchwil hon yw gwella mynediad at wasanaethau iechyd, yn enwedig o ran hunangyfeirio i gael cymorth ynghylch camddefnyddio sylweddau. Roedd prinder gwybodaeth am y gallu i hunangyfeirio.

Yn sgîl y rhwystrau a nodwyd i gyrchu gofal sylfaenol, gellid cynnwys cymunedau Roma, Sipsiwn, Teithwyr a defnyddwyr cychod fel grwpiau targed y byddai meddygon teulu yn cael eu gwobrwyo'n ariannol am ddarparu gwasanaethau iddynt.

Ymchwilydd cymheiriaid o Brifysgol Abertawe

Suzy Hargreaves

Suzy Hargreaves

EIRIOLWR DROS GYMUNEDAU SIPSIWN A THEITHWYR

Jolana Curejova

Jolana Curejova

YMCHWILYDD CYMHEIRIAID O'R GYMUNED SIPSIWN

Donna Leeanne Morgan

Donna Leeanne Morgan
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe