Gweithio i atal datgoedwigo byd-eang

Rydym yn gweithio i atal datgoedwigo byd-eang

Rydym yn gweithio i atal datgoedwigo byd-eang

Yr Her

Mae'r blaned eisoes wedi colli traean o'i choedwigoedd. Rydym yn gweithio gyda chorff cadwraeth anllywodraethol mwyaf y byd, y WWF,
a’r Asesiad Datganiad Coedwig byd-eang, i sicrhau nad yw’n colli mwyach.

Ers i arweinwyr y byd addo atal a gwrthdroi datgoedwigo byd-eang yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 yn Glasgow, mae ardal coedwig law yr un maint â Denmarc wedi cael ei cholli, gan niweidio natur, bywoliaethau pobl a pheryglu'r hinsawdd.

Mae coedwigoedd yn cefnogi bywoliaethau 1.6 biliwn o bobl, yn gartref i 80% o fioamrywiaeth tir a gallant gadw dan glo 30% o'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr o danwyddau ffosil. Amcangyfrifir bod coedwigoedd y byd yn werth $150 triliwn - mwy na gwerth y farchnad stoc fyd-eang. Felly, wrth golli coedwigoedd ar gyfradd anghynaliadwy, rydym yn niweidio'r blaned a'n cymdeithasau ein hunain.

Er gwaethaf popeth mae coedwigoedd yn ei wneud ar gyfer natur a'r hinsawdd, mae coedwigoedd ledled y byd yn dal i wynebu colledion anghynaliadwy. Mae hyn oherwydd bod datgoedwigo'n gysylltiedig ag elfennau pwysig iawn o'r economi, megis ein systemau bwyd
– mae tua 80% o ddatgoedwigo yn gysylltiedig â chynhyrchu ein bwyd yn amaethyddol. Nid yw'n hawdd datblygu economïau gwyrdd cynaliadwy, heb niweidio coedwigoedd. I fynd i'r afael â'r her anferth mae coedwigoedd byd-eang yn ei hwynebu, yn 2022, dechreuodd yr Athro Daearyddiaeth Mary Gagen secondiad dwy flynedd o hyd gyda Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd - WWF UK – i gydweithio er mwyn atal datgoedwigo byd-eang. O ganlyniad i'r cydweithio hwn, daeth Prifysgol Abertawe'n bartner yn yr Asesiad Datganiad Coedwig (FDA), yn 2024.

Y Dull

Er gwaethaf popeth a wneir gan y coedwigoedd sy’n goroesi ar y blaned, rydym yn dal i'w colli, yn enwedig yn rhanbarthau trofannol y byd, a hynny ar gyfradd anghynaliadwy. Mae llawer o ffactorau cymhleth wrth wraidd y golled hon: ein systemau bwyd, anghyfreithlondeb, mwyngloddio a defnyddio'r goedwig ar gyfer cnydau a phlanhigfeydd coed. Mae masnach ryngwladol, mewn cynhyrchion fel cig eidion, soi, olew palmwydd, coco, rwber a choffi, yn gyfrifol am ganran fawr o'r golled hon yn y goedwig. Oherwydd cymhlethdod y ffactorau hyn, nid yw'n broblem hawdd ei datrys. Mae’r tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Mary Gagen, yn gweithio gyda WWF a’r FDA ar ffyrdd o atal a gwrthdroi datgoedwigo, tra’n cefnogi economïau cynaliadwy a systemau bwyd.

Mynd i'r afael â’r ffactorau gwyddonol anhysbys

Un o'r risgiau mwyaf i ddwy goedwig law fwyaf y byd, yn yr Amazon a Basn y Congo, yw y gallai effeithiau cyfunol newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo achosi i'r coedwigoedd ddiflannu'n llwyr. Os daw'r hinsawdd yn rhy ansefydlog, ac os caiff gormod o'r goedwig ei thorri i lawr, gallai marwolaeth coed ledaenu, hyd yn oed i rannau o'r goedwig lle nad yw coed yn cael eu torri i lawr. Os bydd hyn yn parhau, gallai basn cyfan y goedwig drofannol gael ei golli. Mae hyn yn cael ei adnabod fel pwynt di-droi'n-ôl y goedwig drofannol, ac mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd amdano er mwyn i ni atal y coedwigoedd mwyaf rhag cyrraedd y cam hwn. Mae'r Athro Mary Gagen a'i thîm wedi llunio Briff Technegol - Risking The Amazon: Why We Need Immediate Action to Reduce the Tipping Point Risk - i gefnogi gweithredu'r WWF i atal datgoedwigo yn yr Amazon.

Lansiwyd The Forest Pathways Report yn 2023, a hwn yw glasbrint byd-eang cyntaf y byd i atal a gwrthdroi datgoedwigo.

Mae'r tîm yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n achosi datgoedwigo ledled y byd ac yn cyfuno atebion ac ymagweddau arloesol at eu rhwystro, gan gefnogi economïau coedwig gwyrdd yn y cenhedloedd sy'n dibynnu ar eu coedwigoedd am dwf economaidd. Mae'r tîm yn cydweithio â'r bartneriaeth cymdeithas sifil Forest Declaration Assessment a'r Forest and Climate Leaders Partnership.

Yr Effaith

  • Mae gwaith y tîm yn yr Amazon yn mynd yn ei flaen hefyd wrth lansio Apêl yr Amazon a pharhau i ymchwilio i risg pwynt di-droi'n-ôl i fiom yr Amazon.
  • Bu'r tîm hefyd yn gweithio gyda'r tîm Climate Stripes ym Mhrifysgol Reading i ddatblygu'r Forest Stripes - ffordd hardd ac arloesol o ddangos y newid ym mywyd gwyllt coedwigoedd ledled y byd, ers y 1970au.
  • Mae'r Climate Stripes yn un o symbolau mwyaf adnabyddus newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang ac yn ddelwedd bwerus sy'n cyd-fynd â'r Forest Stripes, gan helpu i rannu ymchwil a chynlluniau gweithredu yn yr Adroddiad Forest Pathways â chynulleidfa fyd-eang.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Gweithredu Hinsawdd UNSDG
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe