Mae cynnydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn cynnig effeithiau cadarnhaol yn ogystal â risgiau i ddiwydiannau, unigolion a chymdeithasau ledled y byd.
Gallai deallusrwydd artiffisial effeithio'n sylweddol ar ddiwydiannau, gan gynnwys:amaethyddiaeth, cyllid, gofal iechyd, gweithgynhyrchu, manwerthu, y gadwyn gyflenwi a chyfleustodau.Wrth i fwy o bobl ddefnyddio technoleg sy'n cynnwys deallusrwydd artiffisial, ceir effeithiau ar unigolion a chymdeithasau.
Er gwaethaf manteision defnyddio deallusrwydd artiffisial megis gwella cynhyrchiant ar draws ystod o ddiwydiannau:diagnosis cyflym ym maes gofal iechyd, cynnydd yn allbynnau athrawon a myfyrwyr, a'r gallu i ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer dinasyddion, mae risgiau sylweddol i'r gymdeithas ynghylch rhoi deallusrwydd artiffisial ar waith.
Gallai unigolion yn y gymdeithas ofni colli swydd, diffyg cymhwysedd a'r angen i feithrin sgiliau newydd, gwrthwynebu newid, yn ogystal â diffyg dealltwriaeth o natur esboniadwy, ymwybyddiaeth gyd-destunol, a safoni.
Mae angen rheoleiddio a rheoli polisïau er mwyn sicrhau bod y chwyldro deallusrwydd artiffisial yn gweithio tuag at ffyniant teg ac yn lleihau'r risg o segmentu'n unol â rhywedd.
Er mwyn elwa a derbyn deallusrwydd artiffisial yn llwyr yn ein bywydau, a diogelu cenedlaethau'r dyfodol, mae penderfyniadau yn ystod y blynyddoedd nesaf yn hanfodol.
Deallusrwydd Artiffisia: Heriau, Chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac Agenda ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer
Rydyn ni wrthi’n llunio chwyldro Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Yr Dull
Yn 2019, cynhaliodd yr athro Yogesh Dwivedi astudiaeth mewn gweithdy o'r enw "Deallusrwydd Artiffisial (AI):Heriau a Chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac Agenda ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer”.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys y rhai o fyd diwydiant, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus a drafododd y cyfleoedd posib, yr heriau a'r agenda ymchwil bosib oherwydd twf deallusrwydd artiffisial mewn sawl sector.
Cynrychiolwyr gweithdai
Yr Effaith
- Canlyniad y gweithdy oedd cyhoeddiad mewn cyfnodolyn Artficial Intelligence (AI): Multidisciplinary perspectives on emerging challenges, opportunities, and agenda for research, practice and policy.
- Mae Athro Dwivedi wedi cyd-ysgrifennu dwy o erthyglau am ddeallusrwydd artiffisial yn y cylchgrawn Yojana, a gyhoeddwyd gan Weinidogaeth Gwybodaeth a Darlledu Llywodraeth India. Mae erthygl Dwivedi et al. (2019) (sydd wedi'i harwain gan YOGESH) wedi cyflwyno Fframwaith Chwe Dimensiwn TAM-DEF ynghyd â Cherdyn Sgorio DEEP-MAX sy'n ceisio sicrhau deallusrwydd artiffisial diogel a moesegol cyn ei ddosbarthu i'r cyhoedd. Mae'r rhain yn ystyried:
- Tryloywder ac archwilio
- Atebolrwydd a materion cyfreithlon
- Amddiffyn rhag camddefnydd
- Y bwlch digidol a'r diffyg data
- Moeseg
- Tegwch a chydraddoldeb
- Mae'r fframwaith a'r cerdyn sgorio wedi cael eu defnyddio gan Lywodraeth Tamil Nadu, gan ddylanwadu ar y gwaith o lunio polisi'r llywodraet a dyfynnwyd gan nifer o gyhoeddiadau'r UE gan gynnwys AI watch, evolution of the EU market share of robotics: Data and methodology, AI watch, beyond pilots: Sustainable implementation of AI in public services and Exploring digital government transformation in the EU: Understanding public sector innovation in a data-driven society;
- Mae’r Athro Dwivedi wedi’i enwi ar restrau blynyddol Ymchwilwyr a Dyfynnir Uchel™ 2020 a 2021 gan Clarivate Analytics
- Athro Dwivedi wedi cael ei enwi'n enillydd Addysgwr Cyfrifiadura Gorau'r Flwyddyn gan IACIS 2021 – ac ef yw'r academydd cyntaf o'r DU i dderbyn y wobr uchel ei bri.
Ymchwilydd cysylltiedig
Dr Denis Dennehy
Ymchwilwyr cydweithredol
- Yr Athro Biagio Lucini, Cadair Bersonol, Mathemateg
- Yr Athro Gerts Aarts, Cadair Bersonol, Ffiseg
- Dr Adam Wyner, Athro Cyswllt yn y Gyfraith a Chyfrifiadureg, Cyfraith
- Yr Athro Tom Crick, Athro Addysg a Pholisi Digidol
- Dr Annie Tubadji, Uwch-ddarlithydd, Economeg
- Dr Frederic Boy, Athro Cyswllt, Busnes