Adele Cahill (Hi)

Adele Cahill

Mae Adele Cahill wedi bod yn uwch-reolwr ac yn arweinydd yn GIG Cymru ers dros 40 mlynedd - yn weithiwr proffesiynol ym maes caffael sy'n arwain y timau caffael ar draws GIG Cymru ers 30 mlynedd, gan gynnwys rolau uwch-reoli cyffredinol sy'n cefnogi rhaglenni gwella a thrawsnewid sylweddol ar draws gwahanol Fyrddau Iechyd yng Nghymru. Mae ei rolau wedi bod yn allweddol wrth adolygu arferion ar draws ystod o wasanaethau, ac mae ganddi hanes o arweinyddiaeth strategol effeithiol wrth lwyddo i gyflawni gwaith rheoli newid, rhaglenni a phrosiectau, a rhoi hynny ar waith.

Cyflwynwyd Adele i'r gwaith Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth yn ystod 2015 gan yr Athro Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru. Wedi hynny, ymunodd â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddarparu cyfeiriad strategol y rhaglen wrth sefydlu ac arwain y rhaglen Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, ochr yn ochr â Dr Sally Lewis a ddarparodd yr arweinyddiaeth glinigol.

Mae Adele bellach yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, y Gyfarwyddiaeth Trawsnewid Gwerth, ac mae'n awyddus i weld gwerth yn cael ei greu ar draws y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan edrych ar gyfleoedd i leihau amrywiad diangen mewn ymarfer, symleiddio llwybrau gofal i sicrhau tegwch a mynediad i gleifion, gan sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau. Mae Adele yn awyddus i archwilio'r cysylltiadau rhwng Caffael a Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, gan edrych ar sut y gallai Cymru feithrin partneriaethau strategol â byd diwydiant a'r byd academaidd.