Mae Alan wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredol mewn nifer o gyrff iechyd yng Nghymru. Yn 2016 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyllid y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau yn Llywodraeth Cymru, y swydd a ddaliodd cyn ymddeol yn 2021
Dyma'r grŵp mwyaf yn Llywodraeth Cymru sy'n cwmpasu cynllunio strategol a darparu'r holl ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru ac, yn y rôl hon, gweithiodd Alan yn agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal â Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Alan oedd yr arweinydd gweithredol ar gyfer datblygu Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac yn y rôl hon datblygodd berthnasoedd a phartneriaethau rhyngwladol gyda'r nod o gydweithio a chael dysgu a rennir.