Ymunodd Dr Alice Andrews â Phrifysgol Abertawe yn 2025 fel Uwch-ddarlithydd yn yr Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth.
Mae Dr Andrews yn dod ag arbenigedd rhyngwladol mewn addysg a gweithredu Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, gyda phwyslais arbennig ar les y gweithlu. Mae hi wedi dylunio ac arwain rhaglenni i raddedigion a swyddogion gweithredol mewn Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a darparu gofal iechyd ar draws lleoliadau byd-eang ac wedi cael swyddi academaidd yn Ysgol Feddygaeth Geisel yng Ngholeg Dartmouth a'r Sefydliad Gwerth ar gyfer Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Tecsas.
Enillodd Dr Andrews ei PhD mewn Ymddygiad Sefydliadol o Brifysgol Cornell.