Ar ôl gyrfa uchel ei phroffil fel llawfeddyg plastig adluniol yn y GIG, roedd Hamish yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ac yn Brif Swyddog Gwybodaeth Bwrdd Iechyd integredig mawr yn GIG Cymru tan 2018, pan gafodd ei benodi i'w gadair bresennol yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.
Mae Hamish yn arwain rhaglen y Brifysgol mewn Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gymhwyso hynny yn sector y diwydiant gwyddorau bywyd ar draws systemau iechyd byd-eang ac mae'n aelod o Felin Drafod Ffederasiwn Diwydiannau a Chymdeithasau Fferyllol Ewrop (EFPIA) ar Ofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a Chynghrair yr UE ar gyfer Gwerth mewn Iechyd. Mae'n gweithio'n agos gyda Chymuned Ymarfer Caffael sy’n Seiliedig ar Werth yr UE a MedTech Europe. Mae Hamish yn Gyfarwyddwr anweithredol Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn gynghorydd i CGI, partner ymgynghori a chyflenwi digidol byd-eang.