Mae Dr Helen Yu yn Athro Cysylltiol yn yr Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth. Mae gan Helen radd mewn niwrowyddoniaeth a bu'n ymarfer fel cyfreithiwr eiddo deallusol ac asiant patent cofrestredig yng Nghanada am 8 mlynedd cyn dilyn gyrfa academaidd. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae fframweithiau cyfreithiol a pholisi presennol megis cyfraith eiddo deallusol, caffael ar sail gwerth ac ymchwil ac arloesi cyfrifol yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad cynaliadwy a rhoi arloesedd newydd ar waith, yn enwedig ym meysydd biofeddygaeth a gofal iechyd.
Mae ganddi ymagwedd ryngddisgyblaethol at astudio sut mae technoleg, arloesi agored, partneriaethau cyhoeddus preifat a'r gyfraith yn gallu cyfeirio datblygiad arloesi i gyflawni canlyniadau sy'n seiliedig ar werth mewn ffordd sy'n ymatebol ac yn adlewyrchu buddiannau’r holl randdeiliaid yn yr ecosystem arloesi.