Lars Dahl Allerup (Ef)

Lars Dahl Allerup

Lars Dahl Allerup yw Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y felin drafod Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, Rethink Value. Uchelgais Rethink Value yw ysbrydoli meddylwyr sy'n ymarfer ac yn cymhwyso Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Melin drafod sy'n ysbrydoli rhanddeiliaid drwy wasanaethu fel gwahaniaethydd, catalydd ac eiriolwr partneriaethau strategol diriaethol rhwng y rhai hynny sy'n talu am ofal iechyd, y rhai hynny sy'n ei darparu, a'r diwydiant. Mae gan Lars fwy na 13 mlynedd o brofiad o gaffael cyhoeddus strategol ym maes gofal iechyd.

Am dair blynedd roedd Lars yn Rheolwr Datblygu Busnes Newydd ym maes Caffael Corfforaethol ym Mhrifddinas-Ranbarth Denmarc. Cyn y swydd honno roedd yn Brif Brynwr Strategol gyda'r un grŵp ac yn gyfrifol am y categori caffael o offer meddygol ac arwain strategaeth fuddsoddi'r grŵp ar gyfer technoleg feddygol a'r gwyddorau bywyd. Mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arweinydd meddwl ym myd Caffael sy'n Seiliedig ar Werth.