Dechreuodd Victoria ei gyrfa yn y GIG fel nyrs, bydwraig. Mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a'r diwydiant fferyllol mewn rolau masnachol a gweithredol uwch, gan ddatblygu a chyflwyno rhaglenni strategol yn y DU ac Ewrop i gefnogi cydweithrediadau ym maes y Gwyddorau Bywyd â systemau iechyd i rymuso dinasyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella iechyd a lles a chyflawni canlyniadau sy'n bwysig i gleifion.
Ar hyn o bryd mae Victoria yn Ymgynghorydd Rheoli Annibynnol ar gyfer Gwyddor Bywyd ac Iechyd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau i ddarparu mwy o werth a meithrin partneriaethau cydweithredol cynaliadwy.