Mae Yin Jones yn fargyfreithiwr sydd â thros 25 mlynedd o brofiad mewn cyfiawnder troseddol ac mae'n eiriolwr profiadol a chanddi gefndir sylweddol ym meysydd gwaith achos ac ymgyfreitha. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Cymwysedig yn y Gyfraith ar gyfer Panel Camymddygiad yr Heddlu yn Llundain a rhanbarth de-ddwyrain Lloegr ac mae'n Gyd-Is-lywydd Cymdeithas Genedlaethol Cadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith.
Mae hi'n aelod o Bwyllgor Lleyg Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion ac yn gyn-ymddiriedolwr y Gymdeithas Taflod Hollt. Mae gan Yin ferch yn ei harddegau, Hannah.