Ysgrifennwyd gan Simon Rudkin, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg
Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n gyfoethog o ran data ac eto i gyd mae cymaint o’r hyn sy’n diffinio ein polisïau a’n harferion yn deillio o gyfres gyfyngedig o wybodaeth. Ymhellach, wrth inni chwilio am dueddiadau a sylwadau bachog rydym eto’n anwybyddu rhagor o’r wybodaeth gronedig honno. Wrth ddod allan o’r dirwasgiad presennol bydd yn angenrheidiol meddwl nid yn unig am yr economi darged rydym yn ei dymuno, ond hefyd am y gwersi y gallwn eu dysgu o brofiad.
Fel economyddion, rydym yn credu bod unigolion yn gwneud penderfyniadau ar sail swyddogaeth ddefnyddiol; mae eu gweithredoedd yn datgelu canlyniad penderfyniadau ar ôl ystyried llawer o ddewisiadau posibl. Wrth gwrs, ni allwn byth cael popeth rydym yn ei ddymuno, felly mae llawer y gellir ei ddysgu hefyd gan y cyfyngiadau mae unigolion yn eu hwynebu pan maent yn gwneud eu penderfyniadau. Bydd busnesau hefyd yn edrych ar eu marchnad, eu cystadleuaeth a’u galluoedd er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch sut byddant yn rhyngweithio â’u cwsmeriaid. Rydym yn cael ein denu i siarad am gostau isel, prisiau isel ac rydym yn ystyried y rhain yn erbyn yr hyn a fyddai orau ar gyfer y gymdeithas.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod hefyd bod pobl yn poeni am eu hamgylchedd. Mae busnesau’n dangos yn fwyfwy bod ganddynt ymagwedd gymdeithasol hefyd. Ydy hyn yn rhesymegol? Efallai nad yw ef, os rydych yn canolbwyntio ar gost a phris, ond os yw cwmni cyfrifol yn targedu cwsmeriaid sydd am gael nwyddau cyfrifol, yna mae hyn yn dechrau cysylltu. Os rydym wir yn gwobrwyo’r rheiny sy’n dangos ymrwymiad i faterion cymdeithasol, gallai’r cylch fod yn rhinweddol iawn. Dyma le mae economyddion yn tynnu ar y gwahaniaeth rhwng defnyddioldeb ac arian.
Ar yr wyneb, mae awydd am economi newydd, byd lle mae cyfrifoldeb yn ganolog ac mae’r hen ffyrdd ar sail arian yn cilio i’r cefndir. Bydd sylwebwyr yn dweud bod y math fydoedd yn amhosibl oherwydd nad yw’r data blaenorol yn cyd-fynd yn daclus â’r stori. Byddai’n deg dweud bod rhesymau unigolyddol hanesyddol wedi cymryd yr awenau.
Mae data a digitaleiddio’n golygu nad oes angen inni feddwl ragor am y metrigau syml o adroddiadau blaenorol. Mewn gwirionedd gallwn ddod o hyd i ddigon o dystiolaeth sy’n cefnogi economi newydd drwy adolygiadau cwsmeriaid, mynegeion teimladau, paneli arweinwyr busnes ac ymddygiadau chwilio’r rhyngrwyd. Mae data o’r math yn swnllyd dros ben a bydd mwy o farnau nag y byddem fel arfer yn ymdrin â nhw.
Yn yr un modd, mae data presennol yn cynnwys mwy o wybodaeth nag y byddai dadansoddiad nodweddiadol yn ei gyflwyno. Wrth ystyried cyfartaleddau, rydym yn colli cymaint o’r hyn gallai amrywiaeth y data fod wedi dweud wrthym. Mae chwilio’n ddyfnach na’r cyfartaledd yn gallu arwain at wersi pwysig er mwyn llywio’r dyfodol.
Mae angen bod yn agored i dechnegau newydd er mwyn gadael i ddata ein helpu i roi tystiolaeth i bennu cyfeiriad yr economi, ond mae’n hanfodol ein bod yn gofyn am graffu a thryloywder o ran y neges sy’n cael ei chyflwyno. Ni ellir cymryd yn ganiataol y ceir canllawiau ar gyfer adferiad trwy ofyn beth oedd yn fwyaf addas ar gyfer adferiadau blaenorol; mae’r byd wedi newid.
Gan gael fy nhywys gan yr egwyddorion hyn, ac awydd i ddatgelu’r negeseuon go-iawn yn y data, mae fy ymchwil yn dangos sut mae negeseuon pwysig y tu ôl i’r cyfartaledd. Er enghraifft, mae lleihau cost a gwella argaeledd ffrwythau’n gwella’r diet nodweddiadol, ond os gwneir hyn trwy archfarchnadoedd bydd yn atgyfnerthu diet gwael oherwydd y dewisiadau afiach rhad eraill. Bydd rhoi sylw i fusnesau sydd wedi profi eu bod yn llwyddiannus yn colli’r cwmnïau arloesol hynny nad ydynt ar y llwybr arferol y mae eu llwyddiant ar ddod ac sy’n gallu llywio’r dyfodol. Bydd adeiladu o set ddata heb fynnu ar berthnasoedd, neu hepgor ffactorau oherwydd nad oeddent yn cael eu hystyried yn bwysig o’r blaen, yn rhoi ffocws i’r normal newydd.
Mae’n rhaid inni adael i’r data cywir siarad. Mae gan yr atebion y mae fy ngwaith yn eu datblygu gadernid gerbron stŵr ffynonellau modern, nid oes modelau ganddynt ac maent yn dryloyw, gan sicrhau bod y peth cywir yn disgleirio.
Ysgrifennwyd y Blog gan: Simon Rudkin, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg
Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2020