Mae'r angen i farchnadwyr feddwl yn greadigol yn ogystal ag yn strategol, yn bwysicach nawr nag erioed.
Mae cael eich bys ar y pwls yn hollbwysig, ond mae'r gallu i gyflwyno ymgyrchoedd unigryw, diddorol sy'n cael effaith gadarnhaol ar linell waelod eich sefydliad yn ogystal â phrofiadau cwsmeriaid, yn fwy felly.
Fel Canolfan Astudio'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) cymeradwy, bydd yr Ysgol Reolaeth yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i unigolion wrth i'r addysgu gael ei ddarparu gan ddarlithwyr sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant a'r byd academaidd.
Cewch gyfle i astudio ochr yn ochr â chyfoedion ar draws amrywiaeth o sectorau (sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector) a rhannu gwybodaeth, safbwyntiau a phrofiadau y gallwch fynd â nhw'n ôl i'ch sefydliadau unigol.
Mae tri chwrs ar gael yn yr Ysgol:
- Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol – Lefel 6
- Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol – Lefel 4
Caiff y cyrsiau eu cynnal yn y Saesneg mewn cydweithrediad â CIM.
Ar gyfer pwy mae'r rhaglenni Diploma wedi'u cynllunio?
Mae'r rhaglenni Diploma wedi'u cynllunio ar gyfer rheolwyr marchnata a marchnadwyr sy'n gweithio mewn rolau gweithredol a goruchwylio, sy'n ceisio datblygu eu sgiliau strategol a rheoli.
Mae'r Diploma CIM yn lefel gyfatebol i radd israddedig.
Ar gyfer pwy mae'r rhaglen Tystysgrif wedi'i chynllunio?
Mae'r Dystysgrif ar gyfer swyddogion marchnata gweithredol, neu gyfwerth, sydd wedi cael profiad yn y diwydiant ac sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa.