Mae Clirio 2025 ar agor!
Gall clirio fod yn gyfnod cyffrous yn llawn cyfleoedd newydd. Clirio yw'ch cyfle i ddod o hyd i'r ffit perffaith ar gyfer eich taith academaidd, p'un ai nad ydych chi'n cael y graddau rydych chi'n gobeithio amdanyn nhw neu os ydych chi wedi newid eich meddwl am eich cwrs.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd...
Gwarantu Llety
Gwnewch gais am lety wedi ei reoli gan y Brifysgol cyn 19 Awst i gael cynnig llety wedi ei warantu. Gweler ein tudalennau Clirio Llety am fwy o wybodaeth.
Ydych chi'n rhiant neu warcheidwad? Cefnogi eich plentyn trwy'r broses glirio gyda'n canllaw clirio i rieni a gwarcheidwaid.
Gwneud cais o dramor? Gweld ein gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol.
Am Brifysgol Abertawe
Prifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.
Mae ein campysau glan-môr godidog yn ein gwneud yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.