Byddwch yn Rhan o Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe

P'un a ydych chi'n awyddus i wneud ffrindiau, i gadw'n actif, i roi cynnig ar rywbeth newydd neu i gystadlu ar y lefel uchaf, mae mwy nag un ffordd o Fod yn Rhan o Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe.

Boed yn sesiynau hwyl, cymdeithasol gyda Bod yn ACTIF neu'n gystadleuaeth gyfeillgar ar y campws trwy Chwaraeon mewnfurol, drwy fod yn aelod o un o'n 56 o glybiau chwaraeon, neu wrth ddilyn eich uchelgeisiau chwaraeon trwy ein rhaglenni perfformiad, byddwch yn dod o hyd i’r gymuned ddelfrydol i chi yn Chwaraeon Prifysgol Abertawe.

Beth bynnag fo'ch profiad neu'ch gallu, byddwch yn rhan o gymuned groesawgar sy'n eich cefnogi i gadw'n actif, i herio'ch hun, i feithrin hyder a gwneud y gorau o'ch amser yn y Brifysgol. Ar hyd y ffordd, byddwch yn darganfod cyfleoedd newydd, yn creu atgofion i’w trysori ac yn mwynhau popeth sy'n gwneud chwaraeon yn Abertawe mor arbennig.

Archwiliwch y cyfleoedd isod a darganfyddwch eich ffordd i Fod yn Rhan ohoni.