Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwyll
Penodwyd Gwenno'n Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant yn 2023 ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol am sicrhau bod y Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd y brifysgol.
Mae’r maes gorchwyl hwn yn cynnwys cyfoethogi profiad y myfyrwyr drwy hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu ac addysgu'r Gymraeg, yn ogystal ag ysgogi mentrau ymchwil a mentergarwch Cymraeg, a chefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, ei diwylliant a'i threftadaeth yn ehangach fel rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol. Graddiodd Gwenno o Brifysgol Aberystwyth (BA yn y Gymraeg, 1997; PhD mewn Astudiaethau Ffilm, 2002) a dechreuodd weithio yn y sector addysg uwch fel Darlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn 2002 cyn ymuno ag Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005. Mae hi wedi cyhoeddi a darlithio'n helaeth, yn Gymraeg a Saesneg, am ffilm, teledu a diwylliant Cymraeg, a rhwng 2003 a 2013 hi oedd golygydd 'Cyfrwng: Media Wales Journal'.
Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn 2011, lle mae Gwenno yn parhau i arwain y ganolfan unigryw hon, sydd â'r nod o ysbrydoli myfyrwyr o bob oed a chefndir, yn y Brifysgol ac yn y gymuned ehangach, i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu i ddysgu Cymraeg a chyfoethogi eu profiad addysgol a gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd. Mae'r Academi'n cydweithredu â sawl corff cyllido a rheoleiddio cenedlaethol i hyrwyddo'r agenda hon, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r Academi hefyd yn rheoli Tŷ'r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg y Brifysgol ym Mhontardawe.
Mae Gwenno yn cynrychioli'r Brifysgol ar Grŵp Llywio Academi Heddwch, ar Fwrdd Academaidd a Grŵp Ymgynghorol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae hi'n Arolygydd Cymheiriaid Cymraeg i Oedolion ar gyfer Estyn.