Cyswllt ysgolion
Mae gan Academi Hywel Teifi swyddog sy’n gyfrifol am gyswllt ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rydym yn trefnu dyddiau blasu ar eu cyfer sy’n cynnwys sesiynau ar amrywiaeth o bynciau sydd gan y Brifysgol i’w cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae’r sesiynau blasu hyn yn gallu amrywio o Ieithoedd Modern a Hanes er enghraifft i sesiwn ymarferol ym maes Sŵoleg neu Feddygaeth. Rydym hefyd yn cynnig dyddiau adolygu ar gyfer pwnc penodol. Yn y gorffennol mae digwyddiadau’r Adran Gymraeg ar gyfer Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi canolbwyntio’n benodol ar y cwricwlwm sydd o fudd enfawr i’r disgyblion ac yn wir, yr athrawon hefyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb i gysylltu â ni i drefnu dyddiau blasu cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â;
Lauren Evans, Swyddog Prosiectau
Ebost: Lauren.Evans@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 602394