Canolfan Gymraeg ym Mhontardawe
Mae’r prosiect i sefydlu Canolfan Gymraeg ym Mhontardawe yn bartneriaeth rhwng Academi Hywel Teifi a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Derbyniodd y prosiect grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen 2015-16 er mwyn addasu’r adeilad ac i brynu adnoddau. Mae Canolfan Gymraeg Tŷ’r Gwrhyd wedi bod yn weithredol ers Ebrill 2016 dan reolaeth Academi Hywel Teifi, ac fe agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, Alun Davies AC, ar 7 Gorffennaf 2016. Bu dros 80 o wahoddedigion yn yr Agoriad Swyddogol a gafodd sylw yn y wasg leol a chenedlaethol.
Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe ac Urdd Gobaith Cymru â swyddfeydd yn y Ganolfan ac mae grwpiau lleol eraill sy’n hybu’r Gymraeg yn lleol fel Merched y Wawr, Clwb Gwawr Crotesi’r Cwm a Phapur bro Llais yn cyfarfod yn yr adeilad. Mae hyn wedi galluogi i’r Ganolfan weithredu fel siop un stop ar gyfer gwybodaeth a gwasanaethau Cymraeg yn yr ardal ac wedi cyfoethogi gweithgarwch y Ganolfan wrth i’r mudiadau hyn gyd-gynllunio a chefnogi gwaith ei gilydd. Mae siop lyfrau ac adnoddau Cymraeg Tŷ’r Gwrhyd yn llwyddo denu ymwelwyr i’r Ganolfan o bob oed ac yn darparu adnoddau Cymraeg i gefnogi addysg Gymraeg ar bob lefel a dysgwyr Cymraeg o bob oed. Mae dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn y Ganolfan yn wythnosol yn ogystal â chyrsiau a sesiynau dysgu anffurfiol. Mae staff Academi Hywel Teifi yn cynnal digwyddiadau addysgiadol/diwylliannol amrywiol cyson, gan gynnwys sgyrsiau a lansiadau llyfrau sy’n gweddu ac yn debyg o ddenu cynulleidfa leol – e.e. lansiad cyfrol yr Athro Brifardd Alan Llwyd ar Gwenallt, Lansiad Cofiant Niclas y Glais, Noson i Gofio Trychineb Aberfan gyda’r Athro Christine James a’r Athro E. Wyn James a noson i gyfarch Aneirin Karadog wedi iddo ennill y Gadair yn Eisteddfod Sir Fynwy 2016.