Profiadau Merched Meddygol yn ystod y Pandemig
Ar 8fed Mawrth, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 Prifysgol Abertawe, fe fu Yr Athro Angharad Puw Davies sy'n arbenigwraig ar afiechydon heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn arwain sgwrs ddifyr rhwng Yr Athro Gwyneth Davies, Ymgynghorydd Resbiradol a Dirprwy Bennaeth Clinigol yr Ysgol Feddygaeth, Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ac Arweinydd Dysgu Cymunedol y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion, a Shannon Rowlands, myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf o'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion.