Academi Hywel Teifi sy'n cynrychioli'r Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Pob blwyddyn mae Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol. Rheolir cyfraniad y Brifysgol at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi gan gryfhau enw'r Brifysgol fel sefydliad dwyieithog yng Nghymru.
Mae Academi Hywel Teifi yn trefnu presenoldeb y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ynghyd â digwyddiadau cenedlaethol eraill, gan arddangos ymchwil ac arbenigedd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe.
Yn flynyddol, rydym yn cynnal digwyddiad ar y maes ar gyfer staff, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol gyda staff arweiniol y Brifysgol yn annerch y derbyniad. Yn ogystal â staff, mae cyfeillion blaenllaw eraill yr Academi fel Beti George, Jason Mohammad a Heini Gruffudd wedi ymuno yn ein dathliad blynyddol.
Hanes partneriaeth Prifysgol Abertawe gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Lansiwyd Academi Hywel Teifi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010 ym mhresenoldeb y Gweinidog Addysg Leighton Andrews AC a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC gan ddenu cyhoeddusrwydd helaeth. Sefydlwyd Darlith Goffa Hywel Teifi yn yr Eisteddfod honno a bellach mae wedi dod yn uchafbwynt ar gyfer rhaglen Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod. Academi Hywel Teifi sy’n gyfrifol am drefnu, cydlynu a hyrwyddo y rhaglen honno, yn ogystal â datblygu ac arbrofi gyda’r dulliau o gynnal presenoldeb y Brifysgol ar y Maes. Darllenwch fwy am Ddarlith Goffa Hywel Teifi yma.
Yn 2015 wedi cais llwyddiannus i ddarparu sesiwn yn y Lolfa Lên, sefydlwyd partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru ac fe noddwyd y pafiliwn llenyddiaeth boblogaidd ac arloesol hwn gan yr Academi a roddodd gofod hyrwyddo a llwyfan beunyddiol i staff a phrosiectau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
Ar drothwy blwyddyn ei chanmlwyddiant yn 2019, roedd Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn noddi’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan gwmpasu cyfnod dathliadau ei chanmlwyddiant. Y Babell Lên yw un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr Ŵyl. Mae’r Academi’n cyfrannu at y rhaglen fywiog flynyddol o ddarlithoedd, paneli trafod a sgyrsiau a gaiff eu cynnal yn y babell ac mae’n gyfle arbennig i dynnu ar waith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe.