Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cynhaliwyd wythnos arbennig iawn ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd fis Awst wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Rhondda Cynon Taf. Unwaith eto eleni, Prifysgol Abertawe oedd yn noddi’r Babell Lên ac roedd y lle dan ei sang ar gyfer yr holl sesiynau amrywiol.
Dechreuodd arlwy Prifysgol Abertawe gyda'r awdur Jon Gower yn sgwrsio gyda'r actores Betsan Llwyd, y darlledwr a'r sylwebydd Alun Wyn Bevan, y dramodydd a'r awdur Geraint Lewis a Guto Davies brawd Siôn, wrth iddynt hel atgofion am y dramodydd, bardd a'r awdur Siôn Eirian, a fu farw yn 2020. Yna cafwyd sesiwn i gofio am un o gewri Rhondda Cynon Taf, y diweddar Athro Brynley Roberts dan ofal Robert Rhys, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd Prifysgol Abertawe, Gwerfyl Pierce Jones, cyn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, a Rhidian Griffiths o’r Llyfrgell Genedlaethol am roi cyfle i ni ddathlu ei gyfraniad aruthrol i ysgolheictod a’i wasanaeth diflino i iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru a hynny ym Mhrifwyl ei sir enedigol.
Ganol yr wythnos cafwyd sesiwn unigryw iawn gyda Dr Rhian Meara, Uwch-Ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a'r awdur Manon Steffan Ros, yn edrych ar effeithiau dynol a chymdeithasol yn dilyn echdoriad annisgwyl ger tref ar Ynys Heimaey, a hynny drwy waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol. I gloi sesiynau'r Brifysgol yn y Babell Lên bu Dr Hannah Sams o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn sgwrsio gyda’r actor a'r awdur Andrew Teilo am ei yrfa greadigol.
Uchafbwynt digwyddiadau'r Brifysgol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yw Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards a doedd eleni ddim yn wahanol. Roedd y Babell Lên yn orlawn wrth i'r Athro Daniel Williams o Adran Saesneg Prifysgol Abertawe draddodi dan y teitl 'O'r Rhondda i Canaan: J. Gwyn Griffiths, Gwyn Thomas ac Exodus'. Cafwyd ymateb gwych iawn i'r ddarlith ac yn ei dilyn cynhaliwyd Derbyniad arbennig i staff a chyfeillion Prifysgol Abertawe. Braf iawn oedd croesawu ffrindiau hen a newydd a nifer o gyn-fyfyrwyr yn eu mysg.
Yn ogystal â'r hyn a drefnwyd ymlaen llaw gan y Brifysgol, bu nifer o'n staff yn serennu mewn gwahanol ffyrdd ar draws y maes, gan gynnwys Dr Non V Williams, Uwch-Ddarlithydd y Cyfryngau yn traddodi'r ddarlith ‘Caniadaeth y Cysegr ddoe a heddiw’ a drefnwyd gan Gymdeithas Emynau Cymru. Bu Uwch-Ddarlithydd arall o Adran y Cyfryngau, Dr Elain Price yn cadeirio sgwrs wedi'i threfnu gan RTS Cymru am 'Rhosyn a Rhith' a ffilmiwyd yn yr ardal cyn dangosiad o'r ffilm ei hun.
Yn Amgueddfa Pontypridd, cynhaliodd Dr Gethin Matthews o Adran Hanes Prifysgol Abertawe, ddigwyddiad dan y teitl ‘Dim rhagor o enwau!’ lle 'roedd cofebau rhyfel yn ysbrydoli disgyblion o chwe ysgol leol i greu teyrngedau creadigol. Yn ôl ar faes yr Eisteddfod, Yr Athro Siwan Davies, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, a draddododd ddarlith Cymdeithas Edward Llwyd - 'Yr argyfwng hinsawdd: Mae'n amser deffro'.
Cyflwynwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Derbyniodd Dr Rhodri Jones, sydd hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd i'r Brifysgol, y fedal am ei waith arbenigol yn CERN, Genefa, gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr. Gwelwyd llwyddiant hefyd i dîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe gydag Elinor Staniforth, un o diwtoriaid Dysgu Cymraeg yn cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac i Gôr Dysgu Cymraeg am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Côr i Ddysgwyr.
Fel rhan o anrhydeddau Gorsedd Cymru eleni, cafodd dwy gyn-fyfyrwraig eu derbyn i'r orsedd yn ogystal ag un o Gymrodyr Prifysgol Abertawe. Graddiodd Catrin Rowlands o Adran y Gymraeg a chwblhau gradd meistr mewn cyfieithu ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi bellach yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari. Bu Catrin yn weithgar tu hwnt gyda phwyllgorau'r Eisteddfod eleni wrth baratoi at ymweliad y Brifwyl i Rondda Cynon Taf. Un arall a gafodd y wisg werdd eleni yw'r Athro Jane Aaron, cyn-fyfyrwraig o Adran Saesneg y Brifysgol ac mae ei chyfraniad hi fel addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac awdur yn un nodedig. Yn derbyn gwisg las yr Orsedd oedd Carol Bell sy'n Gymrawd er Anrhydedd i Brifysgol Abertawe. Yn enedigol o Felindre, mae hi'n arbenigo ym maes ynni, arian, a busnes ac yn gwasanaethu dros sefydliadau ac elusennau yng Nghymru megis Amgueddfa Cymru a Chanolfan y Mileniwm.
Am Eisteddfod i'w chofio i Brifysgol Abertawe!
Os hoffech weld mwy, dyma ddolen i albwm o luniau'r wythnos https://flic.kr/s/aHBqjBCRiX
Digwyddiadau’r Brifysgol 2024
'Taran ei Theatr ni Thewir': Cofio Siôn Eirian | Dydd Llun 5 Awst, 12.30pm
Jon Gower, Betsan Powys, Alun Wyn Bevan, Geraint Lewis a Guto Davies yn cofio'r dramodydd, bardd a'r awdur Siôn Eirian, a fu farw yn 2020.
Ar Drywydd Brynley Roberts: Aberdâr, Abertawe ac Aberystwyth | Dydd Mawrth 6 Awst, 12.30pm
Robert Rhys, Gwerfyl Pierce Jones a Rhidian Griffiths yn trafod cyfraniad aruthrol Brynley Roberts i ddiwylliant Cymreig fel un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.
Hiraethu am Heimaey: Colli cymunedau, iaith a thraddodiadau yng Ngwlad yr Iâ | Dydd Mercher 7 Awst, 12.30pm
Dr Rhian Meara o’r Adran Ddaearyddiaeth a’r awdur arobryn Manon Steffan Ros yn edrych ar effeithiau dynol a chymdeithasol yn dilyn echdoriad annisgwyl ger tref ar Ynys Heimaey, a hynny drwy waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol.
Darlith Goffa Hywel Teifi – yr Athro Daniel G. Williams | Dydd Iau 8 Awst, 11.30am
Yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn traddodi'r ddarlith flynyddol er cof am yr Athro Hywel Teifi. Testun y ddarlith fydd ‘O'r Rhondda i Canaan: J Gwyn Griffiths, Gwyn Thomas ac Exodus’.
Yn dilyn y ddarlith, cynhelir derbyniad yn Ystafell Gynadledda Lido Pontypridd i gyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion Prifysgol Abertawe, lle darperir lluniaeth ysgafn.
Pobol a Phryfed | Dydd Gwener 9 Awst, 12.30pm
Yr actor ar awdur Andrew Teilo sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad Hywel Llywelyn yn Pobol y Cwm fydd yn sgwrsio am ei yrfa gyda Dr Hannah Sams o Adran y Gymraeg, a’i brofiad yn ysgrifennu ei gasgliad o straeon byrion Pryfed Undydd yn dilyn ei gyfnod yn astudio ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.