Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cafwyd wythnos fendigedig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni. Roedd hi’n Eisteddfod wych a braf iawn oedd bod yn ôl yn y Babell Lên unwaith eto gyda Phrifysgol Abertawe yn cynnig arlwy amrywiol a difyr tu hwnt yn ein sesiynau.
Uchafbwynt yr wythnos yn sicr, fodd bynnag, oedd gweld Yr Athro Emeritws Tudur Hallam o Adran y Gymraeg yn ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam gyda'i gasgliad o gerddi hynod bersonol ar y testun Dinas. Mae hi'n bymtheg mlynedd ers i Tudur ennill ei gadair gyntaf, a honno yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010. Mewn seremoni emosiynol ddydd Gwener 8 Gorffennaf, cododd y gynulleidfa ar ei thraed i gymeradwyo'r tad priod i dri o blant wrth i'r Archdderwydd ei gyfarch.
Hefyd ar ddydd Gwener, gwelwyd y gynulleidfa fwyaf i’n sesiynau yn y Babell Lên yn ystod yr wythnos. Roedd y Babell dan ei sang wrth i ni dalu teyrnged arbennig er cof am yr Athro Geraint H Jenkins. Rhannodd John Meredith, Dr Marion Loeffler a’r Athro Emeritws Prys Morgan atgofion a straeon lu am Geraint gan greu darlun cyflawn o’r Academydd, y dyn a’r cenedlaetholwr aruthrol. Dan gadeiryddiaeth y Prifardd Robat Powell, cwmpasodd y sesiwn gyfraniad a dylanwad y dyn tyner, disglair, athrylithgar hwn a oedd yn gyn-fyfyriwr a Chymrawd Prifysgol Abertawe.
Mae Darlith Goffa Hywel Teifi yn uchafbwynt blynyddol yn y Babell Lên ac eleni cafodd y gynulleidfa wledd yn gwrando ar Dr Carol Bell yn traddodi. Mae Carol, a fagiwyd yn Felindre, yn Gymrawd Prifysgol Abertawe ac yn arbenigwraig fyd-eang yn y diwydiannau ynni a chyllid ac yn ymddiriedolwr elusennau amrywiol. Ei phwnc oedd Cyfleu Cymreictod i'r Byd ac fe dynnodd ar brofiadau personol o fyd busnes, diwylliant a phêl-droed gan bwysleisio'r effaith mae'r timoedd merched a bechgyn wedi'i chael dros y blynyddoedd diwethaf yn codi proffil Cymru dros y byd ac annog balchder mewn Cymreictod a'r iaith Gymraeg.
Nodwyd canmlwyddiant Richard Burton gyda’r Athro Daniel G Williams yn llywio’r sgwrs ddifyr hon. Yn ystod y sesiwn roedd cyfraniadau craff yr actorion Sharon Morgan a Steffan Rhodri, cafwyd trafodaeth am wreiddiau a gyrfa’r seren fyd-eang, ei Gymreictod, ei bresenoldeb a’i lais unigryw. Roedd cyfraniad ar y sgrîn gan Matthew Rhys a soniodd am ddylanwad Burton arno fel actor, a chreu hunaniaeth Gymreig yn yr Unol Daleithiau.
Ar ddechrau’r wythnos, trefnwyd sesiwn i nodi 80 mlynedd ers bomio Hiroshima a Nagasaki, Cwmwl Awst 1945, dan gadeiryddiaeth yr Archdderwydd ei hun, Mererid Hopwood.
Clywodd y gynulleidfa ymateb creadigol beirdd Cymru i'r digwyddiad, a'r beirdd hynny oedd Robat Powell, Jo Heyde a Hywel Griffiths, gyda chyfraniad arbennig Jim Parc Nest ar y sgrîn.
Bu hefyd panel o fenywod eithriadol yn trafod byw mewn cyrff mwy, a hyn yn seiliedig ar y llyfr a gyhoeddwyd gan Sebra, Fel yr Wyt. Cadeirydd y panel oedd Dr Miriam Elin Jones o'r Adran Gymraeg, gyda chyfraniadau gwych a gonest Dr Rhian Meara o'r Adran Ddaearyddiaeth, Gwennan Evans sy'n gyn-fyfyrwraig a bellach yn gweithio i Sebra, Mari Gwenllian a Bethan Antur.
Yn ogystal â'r hyn a drefnwyd yn y Babell Lên gan y Brifysgol, bu nifer o'n staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill ar draws y maes, ac yn dathlu llwyddiannau amrywiol yn ystod yr wythnos hefyd. Enillodd Dr Hannah Sams, Adran y Gymraeg, wobr Gwerddon, sef gwobr rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru am yr erthygl orau yn Gwerddon dros gyfnod o ddwy flynedd. Hefyd o'r Adran Gymraeg, cafodd Yr Athro Alan Llwyd lwyddiant wrth ennill y gystadleuaeth am englyn unodl union ac am lunio gwerthfawrogiad o waith Islwyn Ffowc Elis.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Lowri Lane, sy'n fyfyrwraig Parafeddygaeth yn y Brifysgol, ar ennill Bwrsariaeth Dr Llyr Roberts y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc ac yn noddi taith at bwrpas sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sydd â pherthnasedd i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig. Mae Lowri eisoes ar ei thaith noddedig yn Fiji a fydd yn datblygu ei phrofiad ymhellach o fewn y maes parafeddygaeth.
Cynhaliwyd noson arbennig i gofio am un o gyfeillion Academi Hywel Teifi a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, Dewi Pws Morris. Ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod perfformiodd amryw o artistiaid yn y cyngerdd Nwy yn y Nen i gofio am Dewi gan ddarparu gwledd i gynulleidfa Llwyfan y Maes.
Meddai'r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:
"Bu'n wythnos fendigedig yn Wrecsam i Brifysgol Abertawe. Cynhaliwyd trafodaethau, darlithoedd a sgyrsiau difyr tu hwnt gan ein staff mewn amrywiol bafiliynau ar y Maes a chafwyd ymateb arbennig i'n harlwy yn y Babell Lên. Roedd hi'n bleser gweld y mwynhad roedd ein cynulleidfaoedd wedi ei gael yn gwrando ar rai o brif ysgolheigion, llenorion, beirdd a chymwynaswyr y Gymraeg ar bennaf llwyfan llên y Brifwyl. Edrychwn ymlaen yn eiddgar nawr at Eisteddfod y Garreg Las yn 2026."
